'The End of Me" gan Kyle IdelmanSampl
Yn Fregus er mwyn bod yn gyfan
Mae sgwrs TED Brene Brown, y Cymdeithasegwr wedi denu mwy na pymtheg miliwn o wrandawyr. Ffactor arwyddocaol yn ei boblogrwydd yw'r gwir plaen ein bod, cymaint ag yr ydym yn ei ymladd, yn dyheu am y rhyddid i gyfaddef ein bod yn fregus. Dydyn ni ddim yn sylweddoli ein bod angen ei wneud, mae'n wir i bob un ohonom, ac mae'n fwyaf gwir i'r rhai hynny sy'n sylweddoli lleiaf.
Mae Brown yn ein helpu i weld nad ydyn ni ar ben ein hunain. Dyma mae'n ddweud, “Ni yw'r bobl hynny. ’Y gwir yw… ni yw’r lleill. Mae'r mwyafrif ohonom yn un gwiriad cyflog, un ysgariad, un plentyn sy'n gaeth i gyffuriau, un diagnosis iechyd meddwl, un salwch difrifol, un ymosodiad rhywiol, yn yfed gormod mewn pyliau, un noson o ryw heb ddiogelwch, neu un berthynas i ffwrdd o fod yn “bobl hynny” - y rhai dŷn ni'n ymddiried ynddyn nhw, y rhai dŷn ni'n pitio, y rhai dŷn ni ddim yn gadael i'n plant chwarae gyda nhw, y rhai mae pethau drwg yn digwydd iddyn nhw, y rhai dŷn ni ddim eisiau byw drws nesaf iddyn nhw."
Mae yna ormod o leisiau yn dweud wrthon ni i aros yn barchus, oherwydd, os wnawn ni ddim, wnaiff ein bywyd chwalu.Mae yna ormod o leisiau'n dweud wrthon ni i ddifyrru ein hunain, ac os wnawn ni'm meddwl pethau drwg, bydd y pethau drwg hynny rywsut yn diflannu i ddim.
Dyna pam mae pobl ein cyfnod wedi dod yn feistri rhith, arbenigwyr o guddio poen, cam drinwyr meddyginiaeth, caethweision dyled ariannol, dilynwyr hwyl dros dro, a chyfranogwyr i unigrwydd. Oherwydd dŷn ni ddim yn sylweddoli mai unig ateb ar gyfer bod yn fregus yw...breuder.
Y newyddion da ydy, fod Duw'n gwneud y bregus yn gyfan. Mae'n cymryd y rhai sy'n cael eu hanwybyddu, y rhai sydd wedi'u tanbrisio, eu gadael tu allan, y di-obaith, y rhai sydd wedi'u difrodi a'u dinistrio, ac mae'n gwneud y cyfan all e.
Mae Duw wrth ei fodd yn gwneud y bregus yn hardd.
Mae Jeremeia, pennod 18, adnod 4 i 6 yn ddarlun mor hyfryd o Dduw'n arwain y ffordd, yn edrych ar y potyn o glai sydd â rhywbeth o'i le arno, ac yn gwrthod ei daflu. Byddai'r crochenydd yn dechrau eto, ac yn "gwneud rhywbeth oedd yn edrych yn iawn." Yr un clai, a chraciau ond wedi'i ffurfio o'r newydd. Does yna ddim tomen sothach. Mae'r celf yn bosibiliadau diddiwedd o un darn o glai.
Fy ngweddi yw, "Dduw, cymra fy narnau toredig ac aiil-lunia nhw i rywbeth sydd yn edrych orau i ti."
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
O'i gymryd o ddilyniant Kyle Idelman i "Not A Fan" fe'th wahoddir i ddod o hyd i ddod o hyd i bwynt na allet ti fynd yn is, gan mai wedyn yn unig y gelli di gofleidio sut mae Iesu'n dy drawsnewid.
More