Logo YouVersion
Eicon Chwilio

'The End of Me" gan Kyle IdelmanSampl

The End Of Me By Kyle Idleman

DYDD 3 O 7

Hiraethu i fod yn hapus

Maen nhw'n dweud mai breuddwyd yw bywyd, ond os felly, mae yna ormod o ddeffroadau sydyn ynddo fe. Dw i'n siŵr dy fod wedi cael sawl un. Y cyfnodau hynny, wyddost ti, pan mae bywyd yn llyfn, ond yna mae rhywbeth yn digwydd ac mae'r daith yn troi'n anodd. Mae'r pen fy nhenyn yn dod pan mae fy mreuddwydion yn dod i ben.

Fel hyn mae pethau. Mewn ffyrdd rhyfeddol, mae dioddefaint yn gwneud lle yn ein hysbryd i ni wybod a phrofi bendith heddwch a phresenoldeb Duw. Heb ddioddef, ni allwn wybod ei gysur. Wrth alaru, dŷn ni'n

profi bendith presenoldeb Duw.

Mae Eugene Peterson yn "The Message" yn aralleirio Mathew, pennod 5, adnod 4 fel hyn: "Rwyt wedi'th fendithio pan fyddi'n teimlo dy fod wedi colli beth sydd fwyaf annwyl i ti. Dim wedyn y gelli di gofleidio'r Un sydd fwyaf annwyl i ti."

Pan fyddi wedi cyrraedd pen dy dennyn mae gen ti gyfle i brofi presenoldeb Duw mewn ffordd nad wyt ti wedi erioed o'r blaen. Falle dy fod wedi cofleidio rhai pethau hyfryd ac wedi'u colli nhw. Ond does ddim un goflaid tebyg i goflaid yr un dwyfol.

Yn aml, bydd pobl yn gweddïo am newid ar y tu allan, pan mae newid ar y tu mewn yn bwysicach i Dduw. Mae pobl yn gweddïo am eu dymuniadau ac yn sylweddoli fwy-fwy fod Duw wedi ateb yn nhermau eu hanghenion.

Mae yna hefyd y galaru, sef ein hymateb i'n pechod ynom ni ein hunain ac yn ein byd. Mae'r math cyntaf o alaru wedi'i ysbrydoli o'r difrod ar y tu allan. Mae hwn yn tarddu o'r difrod oddi mewn - y pechod sy'n creu hafog arnom ni, ar y rhai dŷn ni'n caru, ac ar y byd o'n cwmpas. Drwy'r Ysgrythur gyfan mae yna gysylltiad rhwng galaru am bechod - o bob math - a derbyn bendith Duw fel cenedl.

Felly, gadewch i ni fod yn glir. Byddi'n baglu i bechod. A byddi'n dal yn araf i wynebu dy alaru. Mae pawb fel hyn. Dealla hyn, wrth i ti oedi rhag galaru am dy bechod, mae'n achosi oedi ym mendith Duw. Does dim ffordd o gael y fendith honno heb y galaru ddylai ddod yn gyntaf.

Beth tase ti'n wynebu'r pechod yn dy fywyd heddiw, gyda chyfnod o alaru diffuant? Beth tase ti'n treulio peth amser yn myfyrio, gweddïo, a galaru dros y pechod yn y byd o'th gwmpas?

Cyn i ti feddwl am hynny i gyd, meddylia am hyn, mae'n mynd i'th newid di. Mae'n mynd i drawsnewid dy ragolwg arnat dy hun a'th fyd mewn ffordd ddramatig. Yn y bôn rwyt yn dewis gweld pethau o safbwynt Crist, o'r tu mewn tu allan, a fedri di ddim gwneud hynny heb dy fod wedi dod ychydig yn debycach i Grist.

Mae'n bellter cred o'r ffydd, "mwynha dy ddiwrnod" dŷn ni'n tueddu i'w bregethu. Dw i'n gwybod nad yw'n rhy drwm neu fachog, ond mae'n unol â'r gwir, ac mae'n digwydd bod yr un llwybr i'r llawenydd dyfnaf, llawnaf y mae Duw yn ei gynnig. Rwyt yn mynd i gerdded drwy geunant tywyll dychrynllyd, ond dw i'n addo hyn i ti, fyddi di ddim yn cerdded ar ben dy hun.

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

The End Of Me By Kyle Idleman

O'i gymryd o ddilyniant Kyle Idelman i "Not A Fan" fe'th wahoddir i ddod o hyd i ddod o hyd i bwynt na allet ti fynd yn is, gan mai wedyn yn unig y gelli di gofleidio sut mae Iesu'n dy drawsnewid.

More

Hoffem ddiolch i Kyle Idelman a David Cook am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.dccpromo.com/the_end_of_me/

Cynlluniau Tebyg