Gwneud amser i OrffwysSampl
Gorlenwi i Orlifo.
Mae cael fy llenwi gyda'r Ysbryd, yn syml, yn golygu hyn - ildio fy holl natur i'w bŵer e. Pan mae'r ysbryd wedi ildio i'r Ysbryd Glân, bydd Duw ei hun yn ei lenwi. - Andrew Murray
Y rheswm dŷn ni angen gorffwys ydy, am ein bod wedi bod yn gweithio neu'n defnyddio ein hegni mewn ryw ffordd neu'i gilydd. Dydy'r ffaith ein bod yn dysgu sut i orffwys ac yn teimlo fel ein bod wedi gorffwys yn dda, ddim yn golygu y byddwn yn aros felly.
Byddwn yn gweithio eto.
Byddwn yn helpu eraill eto.
Byddwn wedi ein llethu'n emosiynol eto.
Nid gorffwyso er mwyn gorffwyso yw'r pwynt. Dŷn ni'n gorffwyso er mwyn gallu gweithio eto. Mae llanw a thrai hyfryd o weithio a gorffwys; o gael ein llenwi fel y gallwn orlifo.
Fel dŷn ni wedi trafod yn barod, mae myfyrio ar Air Duw, cofnodi, a datgysylltu oddi wrth bethau sy'n tynnu ein sylw yn arferion sy'n ein ail-lenwi. Dŷn ni'n dod o hyd i orffwys wrth wneud y pethau hyn bob dydd. Yn union fel ein cyrff sydd angen oriau dros nos i adfywio, felly hefyd mae ein hysbryd. Allwn ni ddim disgwyl bod ag ysbryd cryf, a bywiog heb ein bod yn buddsoddi ynddo. Allwn ni ddim meddwl bod un wythnos o wyliau yn mynd i'n cario drwodd am fisoedd a misoedd. Rhaid i ni fuddsoddi'n ddyddiol mewn gorffwys i allu dygymod. A rhaid talu sylw pan fyddwn wedi gorwneud hi.
Yn ei lyfr,Leading on Empty: Refilling Your Tank and Refueling Your Passion, mae'r awdur a gweinidog, Wayne Cordeiro yn sôn am freuddwyd gafodd. Aeth dynes at ffermwr a gofyn iddo am rywbeth nad oedd ganddo. dwedodd, "Tyrd nôl yfory ac bydd gen i fwy." Roedd hi'n drist ond doedd ddim o bwys ganddo e. Parhaodd i weithio. Daeth pobl i'w fferm bobo dydd a phan nad oedd ganddo fwy o laeth ac wyau, yn syml, byddai'n dweud, ""Tyrd nôl yfory ac bydd gen i fwy." Rhannodd Parch Cordeiro ei weledigaeth newydd ar ôl iddo gael y freuddwyd.
Does dim rhaid imi glymu fy hun â chylch dychmygol, di-ildio i gynhyrchu mwy, gwneud mwy na cheisio rhagori ar niferoedd yr wythnos diwethaf. Mae gen i gymaint o amser yn y dydd, ac dw i eisiau gwneud yr hyn a allaf gyda'm holl galon dan sylw. Pan fydd y cloc yn rhedeg allan, yna byddaf yn dweud, "Tyrd nôl yfory ac bydd gen i fwy."
Dŷn ni'n deffro bob dydd gyda rhywfaint o egni meddyliol, emosiynol a chorfforol. Pan fyddwn wedi gorlifo popeth sydd gynnon ni i'w roi, rhaid i ni orffwys. Pan fyddwn yn hollol wag, mae cymaint llai i fod yn rwystr iddo e yn ein bywydau.
Aros, bydd lonydd, a gorffwysa. Dyma'r amser mwyaf amserol a chyfleus ii gael dy lenwi ag Ysbryd Duw.
Myfyrio
- A wyt yn teimlo fod angen i ti gwrdd â phob angen rwyt yn ei weld?
- Beth wyt ti'n gallu ei gynnwys yn dy ddiwrnod fel dy fod yn teimlo wedi dy adfywio?
- Gwna nodyn o unrhyw ddatganiad sy'n dod gan Dduw drwy ddarlleniad neu defosiwn heddiw.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Yn aml, mae gorweithio eithafol a phrysurdeb cyson yn cael ei gymeradwyo yn ein byd, ac mae'n gallu bod yn sialens i ymlacio. Er mwyn gweithredu ar ein rolau a'n cynlluniau yn effeithiol, mae'n rhaid i ni ddysgu gorffwys neu fydd gynnon ni ddim byd ar ôl i'w gyfrannu at y rhai dŷn ni'n eu caru ac at y nodau dŷn ni wedi'u gosod. Gad i ni dreulio'r pum diwrnod nesaf yn dysgu am orffwys a sut y gallwn gynnwys yr hyn dŷn ni wedi'i ddysgu yn ein bywydau.
More