Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwneud amser i OrffwysSampl

Making Time To Rest

DYDD 1 O 5

Beth mae'n ei olygu i orffwys?

Mae'n ymddangos fel bod ein hamserlenni'n mynd yn brysurach o fis i fis. Pan fyddwn yn trio trefnu cyfarfod ein ffrindiau, mae'n syndod i ni nad oes noson rydd gynnon ni am fis neu fwy. Mae yna weithgareddau gan ein plant, digwyddiadau gyda'r eglwys, projectau gwaith, partïon penblwydd, a gwyliau Dŷn ni wedi trefnu rhaglen ein bywydau cyfan gan adael ddim lle i rywbeth fyddai'n dod yn agos at ein adfywio a chynnig gorffwys i ni.

Yn amlach na pheidio dŷn ni'n meddwl fod gorffwys yn golygu y dylen ni fod yn ddiog. Mae'n golygu ein bod yn gallu aros adre a gwneud dim byd o gwbl. Er y gallai fod elfen o hynny yn ein cyfnodau tawel, nid dyna'r stori gyfan.

Mae gorffwys yn golygu adferiad.
Mae e'n fater o wybod pan dŷn ni'n gwybod wedi ein draenio, yn lluddedig, ac angen anadlu'n ddwfn am ychydig. Mae e'n fater o wybod ein terfynau a sut dŷn ni'n delio efo anghenion ein bywydau dyddiol. Er mwyn i'n cyrff adfywio go iawn rhaid i ni dderbyn digonedd o orffwys, sy'n cynnwys cysgu'n dda gyda'r nos. Os dŷn ni teimlo'n flinedig yn gyson, byddai'n ddoeth i ni werthuso, nid yn unig faint o gwsg dŷn ni'n ei gael ond pryd dŷn ni'n ei gael hefyd.

Cael ein bwydo yw gorffwys.
Mae e'n ymwneud â dysgu am beth sy'n ein egnïo a beth sydd ddim. Mae e'n ymwneud â chynnwys gweithgareddau neu lonyddwch fydd yn dod ag amserau adfywiol i'n heneidiau. Os byddwn ni'n dal ati i wneud pethau sy'n ein blino, pan ddylen ni fod yn dod o hyd i bethau sy'n ein adfywio, ni fydd yr adfywiad hwnnw fyth yn dod. Rhaid i ni wneud mwy o gynilo, yn hytrach na thynnu allan yn ystod ein cyfnodau o orffwys.

Dylai gorffwys olygu adfywio.
Mae e'n ymwneud â phrofi adfywiad ym mhob rhan o'n bywydau. Mae e'n ymwneud â threulio amser gyda Duw fel bod ein heneidiau'n cael eu hadnewyddu. Tra ein bod yn mwynhau gwneud pethau sy'n ein hadnewyddu'n feddyliol, yn y pendraw, rhaid i'n heneidiau gael eu hadfywio drwy dreulio amser gyda Duw bob dydd.

Dros y pedwar diwrnod nesaf bydden yn plymio i mewn i ffyrdd i orffwys ein cyrff, meddyliau, ac eneidiau. Byddwn yn dysgu sut i gynnwys arferion byddwn yn eu gwneud yn ddyddiol. Ac wrth wneud hynny, bydden ar lwybr fydd yn ein harwain at ddileu blinder meddyliol, emosiynol, ysbrydol a chorfforol, o'n bywydau.

Myfyrio

  • Pan rwyt yn meddwl am orffwys, ydy e'n teimlo fel amhosibilrwydd?
  • Pa ran o dy fywyd wyt ti'n credu sydd angen y gorffwys mwyaf? Corff, meddwl, neu enaid?
  • Gwna nodyn o unrhyw ddatganiad sy'n dod gan Dduw drwy ddarlleniad neu defosiwn heddiw.
Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Making Time To Rest

Yn aml, mae gorweithio eithafol a phrysurdeb cyson yn cael ei gymeradwyo yn ein byd, ac mae'n gallu bod yn sialens i ymlacio. Er mwyn gweithredu ar ein rolau a'n cynlluniau yn effeithiol, mae'n rhaid i ni ddysgu gorffwys neu fydd gynnon ni ddim byd ar ôl i'w gyfrannu at y rhai dŷn ni'n eu caru ac at y nodau dŷn ni wedi'u gosod. Gad i ni dreulio'r pum diwrnod nesaf yn dysgu am orffwys a sut y gallwn gynnwys yr hyn dŷn ni wedi'i ddysgu yn ein bywydau.

More

Cafodd y Cynllun Beibl gwreiddiol ei greu a'i ddarparu gan YouVersion.