Gwneud amser i OrffwysSampl
Myfyria a Air Duw
Po fwyaf rwyt ti'n darllen y Beibl, gymaint mwy y byddi'n myfyrio arno, a gymaint mwy y byddi di wedi dy syfrdanu ganddo. - Charles Spurgeon
Dydy nifer fawr o ddilynwyr Crist ddim yn gwybod beth mae myfyrio yn ei olygu. Pan fyddwn yn myfyrio ar rywbeth, yn syml, dŷn ni'n ffocysu ein meddyliau. I ddeall beth mae e'n ei olygu i fyfyrio ar Air Duw, gad i ni ddarllen disgrifiad y Parch Rick Warren. Mae e'n dweud, "Er mawr syndod, os wyt ti'n gwybod sut mae poeni, rwyt yn barod yn gwybod sut i fyfyrio ar Air Duw. Poeni yw cymryd syniad negatif a meddwl arno drosodd a throsodd. Pan fyddi di'n cymryd darn o'r Ysgrythur a meddwl arno drosodd a throsodd, dyna yw myfyrio."
Mae'r Beibl yn sôn am fyfyrio dros ugain o weithiau ac mae'n ein galw i fyfyrio ar Air Duw. Mae hwn yn arferiad buddiol i'w gynnwys yn ein hamser gyda Duw bob dydd gan ei fod yn cynnig i ni orffwys meddyliol ac emosiynol, yn ogystal â thwf ysbrydol.
Wrth i ni dreulio amser yn darllen y Beibl bobo dydd, gallwn edrych yn ddyfnach i'r darnau hynny a dechrau sgwrs gyda Duw. Er mwyn dal gafael ar sut i fyfyrio ar adnod neu ddwy, gad i ni ddadansoddi Effesiaid, pennod 4, adnodau 31 i 32 sy'n dweud, "Rhaid i chi beidio bod yn chwerw, peidio colli tymer a gwylltio, codi twrw, hel straeon cas, a bod yn faleisus. Eich lle chi ydy bod yn garedig, yn dyner gyda'ch gilydd, a maddau i'ch gilydd fel mae Duw wedi maddau i chi drwy beth wnaeth y Meseia."
Gad i ni eu darllen eto a gofyn i Dduw:
A oes gen i unrhyw chwerwder?
A ydw i'n berson blin?
A yw fy ngeiriau'n rhai llym?
A yw fy nghalon yn dyner?
A ydw i'n maddau i eraill o'm gwirfodd?
Yna, dŷn ni'n disgwyl am lais nerthol, ond eto, tyner, Duw. Anaml iawn y bydd e'n glywadwy, ond byddwn yn gwybod beth mae e'n ddweud wrthon ni. Gallwn ganiatáu i'r myfyrdodau ysgrythurol hyn fynd gyda ni drwy diwrnod cyfan, gan ein gwneud yn ymwybodol o unrhyw chwerwder, dicter, llymder, calon-galedni, neu anfaddeugarwch sy'n ceisio herwgipio ein meddyliau.
Dyma yw myfyrio ar Air Duw.
Mae'r gwirioneddau'r Ysgrythur yn suddo'n ddwfn i'n heneidiau pan fyddwn yn myfyrio ar Air Duw. Mae myfyrio yn darparu lefel newydd o orffwys i ni oherwydd dŷn ni'n treulio ein egni meddyliol ynb meddwl am Air Duw, ac nid yn boddi ein meddylia gyda pryderon y byd. Nid yn unig hynny, ond mae gennym y pŵer i gymhwyso'r geiriau hyn gan Dduw sy'n newid bywyd i'n bywydau ni ein hunain. Ni allwn lai na helpu troi i fod yr hyn mae Duw am i ni fod pan fydden yn ymdrechu fel hyn.
Myfyrio
- Dewisa ran o ddarlleniad heddiw, neu un arall o'th ddewis, a myfyria arno. Wrth i ti ddarllen drwyddo, gofynna i Dduw ddangos i ti ble rwyt yn ufuddhau iddo a ble mae angen i ti wneud newidiadau ar gyfer twf ysbrydol. Caniatâ y darganfyddiad newydd hwn i dreiddio dy feddwl drwy'r dydd.
- Gwna nodyn o unrhyw ddatganiad sy'n dod gan Dduw drwy ddarlleniad neu defosiwn heddiw.
Am y Cynllun hwn
Yn aml, mae gorweithio eithafol a phrysurdeb cyson yn cael ei gymeradwyo yn ein byd, ac mae'n gallu bod yn sialens i ymlacio. Er mwyn gweithredu ar ein rolau a'n cynlluniau yn effeithiol, mae'n rhaid i ni ddysgu gorffwys neu fydd gynnon ni ddim byd ar ôl i'w gyfrannu at y rhai dŷn ni'n eu caru ac at y nodau dŷn ni wedi'u gosod. Gad i ni dreulio'r pum diwrnod nesaf yn dysgu am orffwys a sut y gallwn gynnwys yr hyn dŷn ni wedi'i ddysgu yn ein bywydau.
More