Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rheolaeth Amser DwyfolSampl

Divine Time Management

DYDD 5 O 6

Caru eraill gyda’th Amser

Caru eraill yw un o’r defnyddiau uchaf a gorau o’n hamser. Mae hefyd yn rhan bwysig o ddangos ein bod yn ddilynwyr i Grist.

Mae Ioan13:35 (beibl.net) yn dweud fel hyn: “Dyma sut bydd pawb yn gwybod eich bod chi'n ddilynwyr i mi, am eich bod chi'n caru'ch gilydd.”

Yn anffodus, fel Cristnogion, dydyn ni ddim wastad yn dangos ein perthynas â Christ yn ein perthynas ag eraill.

Ond mae heddiw’n ddiwrnod newydd, a gallwch ymrwymo i garu eraill â’th amser y funud hon.Dwy ffordd bwerus i wneud hyn yw drwy heddwch a thrwy bwyntio bys… atat ti dy hun.

Yn Rhufeiniaid 12:18 (beibl.net) mae’n dweud: “Gwnewch bopeth allwch chi i fyw mewn heddwch gyda phawb “ Ac yn Diarhebion 15:1 (beibl.net) mae’n dweud wrthym: “Mae ateb caredig yn tawelu tymer; ond dweud pethau cas yn gwylltio pobl.”

Ffordd mawr iawn o weithredu fel rhai sy’n meithrin heddwch yw sut dy ni’n defnyddio ein geiriau. Ydyn ni’n siarad mewn ffordd sarhaus neu ydyn ni’n dweud ein meddwl mewn ffordd barchus? Ydyn ni’n meddwl y gorau o bobl neu ydyn ni’n disgwyl y gwaethaf? Gallwn ddewis tymheru sut dŷn ni'n meddwl a sut dŷn ni'n siarad, fel bod ein presenoldeb yn cynhyrchu heddwch hyd yn oed mewn sefyllfaoedd sydd wedi'u llygru gan wrthdaro.

Gallwn garu eraill hefyd drwy ddewis pwyntio’r bys atom ni ein hunainyn lle ei bwynti o at eraill pan fyddwn n ymateb i eiriau neu weithredoedd rhywun. Falle bod rhai eraill wedi gwneud rhywbeth cas neu anghywir. Ond mae ein hymateb negyddol cryf i’w gweithredoedd fel arfer yn ymwneud â pheth boen neu gelwydd ynom ni gymaint ag y mae'n ymwneud â nhw.

Fel mae Mathew 7:3 (beibl.net) yn dweud: ““Pam wyt ti'n poeni am y sbecyn o flawd llif sydd yn llygad rhywun arall, pan mae trawst o bren yn sticio allan o dy lygad dy hun!?”

Ffordd enfawr y gelli di garu eraill gyda'th amser yw trwy arafu, ac edrych i mewn: Noda’n union beth ddigwyddodd. Gofynna i ti dy hun pam ei fod wedi dy sbarduno. Edifarha a maddau. Gofynna i Dduw am iachâd. Yna, os yw'n briodol, siarada â'r person arall.

Mae’r gweithredodd hyn yn cymryd amser a lot o atal personol ond yn arwain i fod yn rym i gariad a thangnefedd Crist yn lle grym dinistr hyd yn oed yng nghanol amgylchiadau anodd.

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Divine Time Management

Gall rheoli amser traddodiadol achosi straen pan mai'r nod yw cael bywyd "dan reolaeth" drwy ein cryfder a'n hunanddisgyblaeth ein hunain. Ond mae’r Beibl yn dweud wrthon ni ein bod ni’n cael heddwch a gorffwys pan dŷn ni’n ymddiried ein hamser i Dduw. Yn y cynllun 6 diwrnod hwn, byddi’n dysgu sut mae dull Duw-ganolog o reoli amser yn arwain at dderbyn yr holl ddaioni sydd ganddo ar dy gyfer, gan gynnwys ei lawenydd a'i heddwch.

More

Hoffem ddiolch i Elizabeth Grace Saunders am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.divinetimebook.com/