Rheolaeth Amser DwyfolSampl
Amcanion Duw ar gyfer Rheoli ein Hamser
Fel hyfforddwr rheoli amser ers 2009, dw i wedi treulio’r rhan fwyaf o fy ngyrfa yn dysgu pobl y sgiliau a’r meddylfryd sydd ei angen i gyflawn pethau. Mae hynny’n cynnwys popeth o osod blaenoriaethau, i gynllunio, i reoli tasgau. Ond yn 2015, wnaeth Duw fy argyhoeddi bod angen imi ddechrau integreiddio fy ffydd Gristnogol i mewn i’m gwaith. Arweiniodd hynny fi ar daith i ddarganfod llwybr o “rheolaeth amser dwyfol.” Cysyniad sydd wedi’i grynhoi yn Salm 46:10a (beibl.net): “Stopiwch! Mae'n bryd i chi ddeall mai Duw ydw i!”
Mae rheolaeth amser dwyfol, nid yn unig am gynnwys amser astudiaeth Feiblaidd yn dy amserlen ddyddiol ond hefyd yn ffordd hollol wahanol o feddwl am amser.
Dydy Duw ddim eisiau i ni eilunaddoli ein gallu i reoli ein hunain a oli ein bywydau. Yn lle, mae Duw yn dymuno ein bod yn ei drystio ynghanol pob dim dŷn ni’n ei wneud.
Fel mae Salm 127:1-2 (beibl.net) n ein hannog:
“ Os ydy'r ARGLWYDD ddim yn adeiladu'r tŷ,
mae'r adeiladwyr yn gweithio'n galed i ddim pwrpas.
Os ydy'r ARGLWYDD ddim yn amddiffyn dinas,
mae'r gwyliwr yn cadw'n effro i ddim byd.
Does dim pwynt codi'n fore
nac aros ar eich traed yn hwyr
i weithio'n galed er mwyn cael bwyd i'w fwyta.
Ie, Duw sy'n darparu ar gyfer y rhai mae'n eu caru, a hynny tra maen nhw'n cysgu.
I brofi’r symudiad hwn, dŷn ni angen dechrau trwy ollwng gafael yn yr amcanion anghywir ar gyfer rheoli amser (sy’n ymddangos mor gywir) a mynd ar ôl yr amcanion cywir.
Dyma rai amcanion anghywir sy'n hawdd iawn llithro iddyn nhw:
- Rheolaeth: Meddwl bod pethau dan reolaeth a ddim angen help Duw
- Pleser: Chwilio am deimlo’n dda gymaint ag sydd bosib
- Cyrhaeddiad: Ffocysu yn benodol ar gyflawni pethau
- Bod y Gorau:Ar gael i’r eithaf er mwyn ennill hunan werth
Ydy unrhyw un o’r amcanion hyn yn swnion gyfarwydd? Dw i’n gwybod mod i wedi syrthio i mewn i’r amcanion bydol hyn yn amlach na faswn i’n hoffi ei gyfaddef. Ond y newyddion da ydy, y gallwn ni ddychwelyd at Dduw, gofyn am ei faddeuant, ac ailgyfeirio ein calonnau i gyfeiriad ei ddymuniadau e ar gyfer rheoli ein hamser.
Mae mor syml â dweud, “Dduw, dw i’n sori am [amcan anghywir]. Plîs helpa fi i ddeall dy amcanion ar gyfer fy amser ac i dy drystio di a’th roi ynghanol pob dim dw i’n ei wneud.”
Fel mae Iago 4:13-16 (beibl.net) yn ein rhybuddio, warns us, mae'n hollbwysig fel Cristnogion ein bod yn cydnabod mai Duw yw Arglwydd ein hamser:
” Gwrandwch, chi sy'n dweud, “Awn i'r lle a'r lle heddiw neu fory, aros yno am flwyddyn, dechrau busnes a gwneud llwyth o arian.” Wyddoch chi ddim beth fydd yn digwydd fory! Dydy'ch bywyd chi yn ddim byd ond tarth - mae'n ymddangos am ryw ychydig, ac yna'n diflannu! Dyma beth ddylech chi ddweud: “Os Duw a'i myn, cawn ni wneud hyn a'r llall.” Ond yn lle hynny dych chi'n brolio eich bod yn mynd i wneud rhyw bethau mawr. Peth drwg ydy brolio fel hyn.”
Gad i ni drystio Duw, nid ni ein hunain, gyda rheoli ein hamser heddiw.
Am y Cynllun hwn
Gall rheoli amser traddodiadol achosi straen pan mai'r nod yw cael bywyd "dan reolaeth" drwy ein cryfder a'n hunanddisgyblaeth ein hunain. Ond mae’r Beibl yn dweud wrthon ni ein bod ni’n cael heddwch a gorffwys pan dŷn ni’n ymddiried ein hamser i Dduw. Yn y cynllun 6 diwrnod hwn, byddi’n dysgu sut mae dull Duw-ganolog o reoli amser yn arwain at dderbyn yr holl ddaioni sydd ganddo ar dy gyfer, gan gynnwys ei lawenydd a'i heddwch.
More