Rheolaeth Amser DwyfolSampl
Trystio Duw gyda dy amser
\Mae trystio’n cael ei ddiffinio fel “credu’n gryf yng nghysondeb, gwirionedd neu allu rhywun neu rywbeth.” Mae’r gair yn cael ei ddefnyddio yn y Beibl dros 150 o weithiau. Un o’r themâu canolog yn y Beibl yw trystio’r Arglwydd. Pan oedd bobl yn y Beibl yn trystio Duw wnaethon nhw brofi’r gorau ganddo. Pan wnaethon nhw drystio yn rhywbeth arall, wnaethon nhw ddim.
Mae Jeremeia 17:7-8 (beibl.net) yn addo’r bendithion hyn i’r rhai hynny sy’n trystio yn yr Arglwydd:
”yn rhoi eu hyder ynof i,
Byddan nhw'n gryf fel coeden wedi'i phlannu ar lan afon,
a'i gwreiddiau'n ymwthio i'r dŵr.
Dydy'r gwres crasboeth yn poeni dim arni hi;
mae ei dail yn aros yn wyrdd.
A does dim lle i boeni pan ddaw blwyddyn o sychder;
bydd ei ffrwyth yn dal i dyfu arni.”
Felly, sut olwg sydd ar drystio’r Arglwydd yn llwyr yn ein cyfnod ni? Fel Cristnogion, dŷn ni’n aml yn meddwl gofyn i Dduw am help pan mae gynnon ni benderfyniadau anodd i’w gwneud, fel pa job i gymryd, ble i fyw, neu os dylen ni briodi rhywun. Ond, yn am, dŷn ni’n gallu anghofio gofyn i Dduw ein harwain gerfydd ei law gyda manylion ein bywyd o ddydd i ddydd.
Dyma rai ffyrdd sut salŵn ni drystio Duw ynghanol Rheoli ein Hamser.
- Rhoi trefn ar fy amserlen. Dos drwy’r holl weithgareddau yn dy fywyd. Gweddïa ble dylet ti dreulio mwy neu lai o amser.
- Rho fwy o amser i Dduw: Treulia amser bob dydd yn astudio’r Beibl a gweddïo fel ffordd i gysylltu â dy Dad Nefol a rhoi iddo unrhyw feichiau sydd gen ti.
- Gorffwys yn Nuw: Cymer yr amser hwn fel diwrnod Sabath pob wythnos a chyfnodau eraill fel arwydd dy fod yn trystio yng nghofl Duw drosot ti.
- Gollwng: Os wyt yn tueddu i gymryd gormod o ofal dros eraill, gofynna i Dduw i dy helpu i drystio yn ei ofal dros y bobl rwyt ti â gofal drostyn nhw. Os wyt yn tueddu tuag at ganolbwyntio gormod ar dasg, gofynna i Dduw dy helpu i fod yn fwy hyblyg ac agored i ofalu am anghenion eraill.
Fel Cristnogion dylai ein defnydd o amser a’n heddwch ag amser ddangos ein bod yn trystio yn Nuw ac nid ni ein hunain wrth reoli ein hamser.
Am y Cynllun hwn
Gall rheoli amser traddodiadol achosi straen pan mai'r nod yw cael bywyd "dan reolaeth" drwy ein cryfder a'n hunanddisgyblaeth ein hunain. Ond mae’r Beibl yn dweud wrthon ni ein bod ni’n cael heddwch a gorffwys pan dŷn ni’n ymddiried ein hamser i Dduw. Yn y cynllun 6 diwrnod hwn, byddi’n dysgu sut mae dull Duw-ganolog o reoli amser yn arwain at dderbyn yr holl ddaioni sydd ganddo ar dy gyfer, gan gynnwys ei lawenydd a'i heddwch.
More