Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Pam y Pasg?Sampl

Why Easter?

DYDD 5 O 5

Beth sydd raid i ni ei wneud?

Mae’r Testament Newydd yn ei gwneud hi’n glir bod rhaid i ni wneud rhywbeth i dderbyn y rhodd mae Duw’n ei gynnig. Mae Ioan yn sgwennu, ‘Ydy, mae Duw wedi caru'r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy'n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol’ (Ioan 3:16).

Mae credu yn cynnwys gweithred o ffydd, yn seiliedig ar y cwbl dŷn ni’n ei wybod am Iesu. Dydy e ddim yn ffydd ddall. Mae’n ymwneud ag adnabod Person. I ryw raddau mae e fel cymryd naid o ffydd fel priodferch neu briodfab pan mae’n dweud ‘Gwnaf’ ar ddiwrnod eu priodas.

.’

Mae’r ffordd mae pobl yn cymryd y naid hon o ffydd yn gwahaniaethu’n ddirfawr, ond dw i eisiau disgrifio un ffordd y gelli di gymryd y naid hon, y funud hon. Mae’n gallu cael ei grynhoi gan dri gair syml iawn:

‘Sori’

Mae’n rhaid iti ofyn i Dduw faddau iti am bopeth rwyt wedi’i wneud o’i le, a throi i ffwrdd oddi wrth bopeth rwyt yn gwybod sydd o’i le yn dy fywyd. Dyma beth mae’r Beibl yn ei olygu drwy ‘edifarhau.

‘Diolch’

Dŷn ni’n credu fod Iesu wedi marw droson ni ar y groes. Rwyt ti angen diolch iddo e am farw drosot ti ac am ei gynnig o rodd o faddeuant am ddim, rhyddid a'i Ysbryd.

‘Plîs’

Dydy Duw byth yn gorfodi ei ffordd i mewn i’n bywydau. Mae angen iti dderbyn ei rodd a’i wahodd i ddod i fyw o’th fewn drwy ei Ysbryd.

Os hoffet ti gael perthynas â Duw ac rwyt ti’n barod i ddweud y tri pheth hyn, yna, gwranda ar y weddi syml hon, y gelli di ei gweddïo a fydd yn dechrau’r berthynas honno:

Arglwydd Iesu Grist,

Mae’n ddrwg gen i am y pethau drwg dw i wedi’i gwneud yn fy mywyd,(cymra ychydig o amser i ofyn am ei faddeuant am unrhyw beth penodol sydd ar dy gydwybod),Plîs maddau imi. Dw i am droi fy nghefn nawr ar bopeth dw i’n gwybod sydd yn ddrwg.

Diolch iti am farw ar y groes drosta i fel fy mod yn gallu derbyn maddeuant a’m gollwng yn rhydd.

Diolch dy fod yn cynnig maddeuant a’r rhodd o’th Ysbryd. Dw i’n derbyn y rhodd hwnnw nawr.

Plîs tyrd i mewn i’m mywyd drwy dy Ysbryd Glân, i fod gyda fi am byth.

Diolch, Arglwydd Iesu. Amen.

Ysgrythur

Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Why Easter?

Beth sydd mor bwysig am y Pasg? Pam fod yna gymaint o ddiddordeb am berson a anwyd 2000 0 flynyddoedd yn ôl? Pam fod cymaint o bobl wedi’u cynhyrfu gan Iesu? Pam fod ei angen e arnom ni? Pam wnaeth e ddod? Pam wnaeth e farw? Pam dylai neb foddran i ffeindio allan? Yn y cynllun 5 diwrnod hwn mae Nicky Gumbel yn rhannu atebion hynod ddiddorol i’r cwestiynau hynny.

More

Hoffem ddiolch i Alpha a Nicky Gumbel am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://alpha.org/