Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Pam y Pasg?Sampl

Why Easter?

DYDD 4 O 5

Rhyddid am beth?

Rhyddid am beth?

Dydy Iesu, bellach. Ddim ar y ddaear yn gorfforol, ond dydy e ddim wedi ein gadael ar ben ein hunain. Anfonodd ei Ysbryd Glân i fod gyda ni. Pan mae ei Ysbryd yn dod i fyw o’n mewn, mae e’n rhoi i ni ryddid newydd.

Rhyddid i adnabod Duw

Mae’r pethau dŷn ni’n gwneud o’u lle yn achosi rhwystr rhyngom ni a Duw: ‘Mae eich drygioni chi wedi'ch gwahanu chi oddi wrth Dduw’ (Eseia 59:2). Pan wnaeth Iesu farw ar y groes, cafodd wared ar y rhwystr oedd yn bodoli rhyngon ni a /duw. O ganlyniad, mae e wedi’i gwneud hi’n bosibl i ni gael perthynas gyda’n Creawdwr. Dŷn ni'n dod yn feibion a merched iddo. Mae’r Ysbryd yn ein sicrhau o’r berthynas hon, ac mae’n ein helpu i ddod i adnabod Duw yn well. Mae’n ein helpu ni i weddïo ac i ddeall gair Duw (y Beibl).

Rhyddid i garu

’ Dŷn ni'n caru'n gilydd am ei fod e wedi'n caru ni gyntaf’ (1 Ioan 4:9). Wrth i ni edrych ar y 4groes dŷn ni’n deall cariad Duw tuag atom. Pan fydd Ysbryd Duw’n dod i fyw o’n mewn, dŷn ni’n profi’r cariad hwnnw. Wrth i ni wneud hynny, dŷn ni’n derbyn cariad newydd at dduw ac at eraill. Dŷn ni wedi’n gollwng yn rhydd i fyw bywyd o gariad - bywyd sy'n canolbwyntio ar garu a gwasanaethu Iesu a charu a gwasanaethu pobl eraill yn hytrach na bywyd sy'n canolbwyntio ar ein hunain.

Rhyddid i newid

Weithiau, mae pobl yn dweud, “Dyna pwy wyt ti. Fedri di ddim newid.’ Y gwir amdani yw, gyda help yr Ysbryd, fe allwn ni newid. Mae’r Ysbryd Glân yn rhoi rhyddid i ni fyw’r math o fywydau, dŷn ni wedi bod eisiau ei fyw, erioed. Mae Paul yn dweud wrthon ni mai ffrwythau’r Ysbryd ydy, cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanreolaeth (Galatiaid 5: 22-23). Pan fyddwn yn gofyn i Ysbryd Duw i ddod i fyw o’n mewn, mae’r nodweddion hyn yn dechrau tyfu’n ein bywydau.

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Why Easter?

Beth sydd mor bwysig am y Pasg? Pam fod yna gymaint o ddiddordeb am berson a anwyd 2000 0 flynyddoedd yn ôl? Pam fod cymaint o bobl wedi’u cynhyrfu gan Iesu? Pam fod ei angen e arnom ni? Pam wnaeth e ddod? Pam wnaeth e farw? Pam dylai neb foddran i ffeindio allan? Yn y cynllun 5 diwrnod hwn mae Nicky Gumbel yn rhannu atebion hynod ddiddorol i’r cwestiynau hynny.

More

Hoffem ddiolch i Alpha a Nicky Gumbel am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://alpha.org/