Gweinidogaeth RhagoriaethSampl
Cyffredinedd: Methiant Cariad
Pan ofynnwyd i Iesu beth oedd y gorchmynion mwyaf, atebodd, “Rwyt i garu’r Arglwydd dy Dduw...a... wyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.” Fel welsom ni ddoe, mae gwaith rhagorol yn un ffordd inni gyflawni gorchymyn Iesu i garu Duw trwy ddatgelu ei gymeriad o ragoriaeth i’r rhai o’n cwmpas. Fel y gwelwn heddiw, mae rhagoriaeth hefyd yn angenrheidiol i gadw'r ail orchymyn yn ein gwaith.
Fel Cristnogion, allwn ni ddim dweud ein bod yn ceisio caru ein cymydog fel ni ein hunain ac yna bod yn ddinod yn ein gwaith. Meddylia am yr enghraifft eithafol o feddyg Cristnogol. Tra y gall y meddyg hwnnw weddïo gyda’i chleifion, rhannu’r efengyl â’i chyd-weithwyr, a rhoi arian i’w heglwys, ei ffurf fwyaf sylfaenol ar weinidogaeth yw bod yn feddyg rhagorol. Pe bai'n weithiwr meddygol proffesiynol cymedrol, gallai bywydau ei chleifion fod mewn perygl. Gweinidogaeth ragoriaeth ddylai fod cyfrifoldeb cyntaf y meddyg yn ei gwaith - gwasanaethu ei chleifion orau y mae’n gallu, gan roi iddyn nhw yr un lefel o ofal ag y byddai’n ei ddisgwyl iddi hi ei hun a’i theulu.
Nawr, i’r rhan fwyaf ohonom, nid yw sgil gymharol ein gwaith yn mynd i olygu’r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth. Ond mae gennym ni i gyd gyfle i ufuddhau i orchymyn Iesu i garu ein cymdogion fel ni ein hunain trwy ddewis gwneud gwaith rhagorol a mynd ymhell y tu hwnt i’r safonau gofynnol sydd ei angen yn ein swyddi. Rwyf wrth fy modd â'r hyn y mae Matt Perman yn ei ddweud ar y pwnc hwn: “Mae gwaith slac fel fandaliaeth oherwydd mae'n gwneud bywyd yn anoddach i bobl - yn union fel fandaliaeth. Mae Cristnogion i fod i'r gwrthwyneb i fandaliaid a slacwyr yn eu gwaith. Dŷn ni i wneud gwaith a fydd o fudd gwirioneddol i bobl drwy fynd yr ail filltir yn hytrach na dim ond gwneud y lleiafswm angenrheidiol. Mae rhagoriaeth yn ein gwaith mewn gwirionedd yn fath o haelioni a chariad, ac mae ansawdd gwael yn fath o gynildeb a hunanoldeb. Nid gwaith eilradd yn unig yw gwaith gwael; mae’n fethiant o gariad.”
Fel Cristnogion, ddylen ni ddim ceisio gwneud y lleiafswm lleiaf posibl yn ein swyddi i gael ein cyflog. Os dŷn ni’n credu fod ein gwaith yn alwad gan Dduw, byddwn yn gwneud ein “gorau glas bob amser, fel tase ni’n gweithio i’r Arglwydd ei hun (Colosiaid 3:23),” gan geisio gogoneddu Duw a charu eraill yn dda trwy fod yn feddygon, yn fentrwyr ac yn athrawon sydd â’r ffocws mwyaf a rhagorol., artistiaid, seiri, a swyddogion gweithredol a’r gorau posib y gallwn fod. Nid dim ond ffordd o ennill rhywfaint o fudd personol yw rhagoriaeth yn ein gwaith. Rhagoriaeth yw ein ffurf fwyaf sylfaenol ar weinidogaeth yn ein gwaith. Gad i'r gwirionedd hwn dy annog i ganolbwyntio ar ddilyn meistrolaeth ar dy grefft, gan ddod y fersiwn mwyaf eithriadol ohonot ti dy hun er gogoniant Duw a lles eraill!
Os wnes ti fwynhau’r cynllun darllen hwn, byddi wrth dy fodd hefyd gyda’m defosiwn wythnosol, gan dy helpu i gysylltu’r efengyl yn ddyfnach â’th waith. Cofrestra yma.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae yna lawer o resymau da dros anelu at ragoriaeth yn ein gwaith: Mae rhagoriaeth yn hyrwyddo ein gyrfaoedd, yn rhoi dylanwad i ni, a gall arwain at gyfleoedd i rannu'r efengyl. Ond fel y bydd y cynllun tridiau hwn yn dangos, dylem fynd ar drywydd rhagoriaeth am reswm llawer mwy sylfaenol - oherwydd rhagoriaeth yw'r ffordd orau i ni adlewyrchu cymeriad Duw a charu a gwasanaethu ein cymdogion fel ein hunain trwy ein dewis o waith.
More