Gweinidogaeth RhagoriaethSampl
Cyhoedda Ragoriaethau Duw
Nid yw pwrpas ein gwaith yn wahanol i bwrpas ein bywydau, sef gogoneddu Duw ym mhopeth a wnawn (1 Corinthiaid 10:31). Mae “Gogoneddu” yn air dŷn ni'n ei daflu o gwmpas cymaint fel y gall fod yn anodd ei ddiffinio. Fel mae John Piper yn dweud, y cyfan y mae gogoneddu Duw yn ei olygu yw “adlewyrchu ei fawredd” neu ddatgelu ei gymeriad i eraill.
Felly, os mai pwrpas ein gwaith yw datgelu cymeriad yr Arglwydd i'r byd, beth yn union yw ei nodweddion? Mae’r Beibl yn disgrifio Duw mewn sawl ffordd, ond efallai mai ei gymeriad o ragoriaeth greadigol sydd fwyaf gweladwy i ni. Ni allwch syllu ar y Grand Canyon a pheidio â rhyfeddu at waith meistrolgar Duw. Ni allwch fynd i sŵ heb werthfawrogi goruchafiaeth greadigol y Creawdwr. Ac allwch chi ddim cymryd babi gerfydd ei law a pheidio â syllu mewn syndod ar y rhagoriaeth sydd ei angen i wneud i filiynau o gelloedd ffurfio gyda'i gilydd i greu bywyd. Fel y gwelsom yn y darn ddoe, roedd cymeriad rhagoriaeth Duw hefyd yn disgleirio ym mywyd Iesu ar y ddaear, gyda’i gyfoeswyr yn rhyfeddu fod “popeth mae’n ei wneud mor ffantastig” Addolwn y Duw pennaf. Duw perffaith. Mae “rhagorol” yn air llawer rhy ystrydebol i ddisgrifio Duw’r bydysawd. Ond dyma'r agosaf y gallwn ni fel meidrolion yn unig obeithio ei ddeall a'i gyrraedd.
Fel plant Duw, dŷn ni’n cael ein galw i efelychu ein Tad eithriadol. Yn Effesiaid 5:1, mae Paul yn cyfarwyddo’r Eglwys “fel plant annwyl” i “ddilyn esiampl Duw.” Wrth sôn am y darn hwn, dywed y diwinydd Andreas Köstenberger, “Sut dylen ni ymateb i ragoriaeth Duw? Yn fyr, dylen ni geisio ei ddynwared a’i efelychu... Fel plant Duw, sydd wedi’u gwaredu, dŷn ni i ymdrechu i fod fel Duw. Mae hyn, mae’n ymddangos, yn cynnwys ymdrechu am ragoriaeth.” Mae John Piper yn ei roi fel hyn: “Duw a’m creodd i - a chwithau - i fyw gydag un angerdd hollgynhwysol, holl-drawsnewidiol - sef, angerdd i ogoneddu Duw trwy fwynhau ac arddangos ei oruchafiaeth ym mhob maes o fywyd..”
Mewn geiriau eraill, yr ydym yn gogoneddu Duw wrth efelychu ei gymeriad o ragoriaeth ac wrth wneud hynny yw “dangos i eraill mor wych ydy Duw, yr Un alwodd chi allan o’r tywyllwch i mewn i’w olau bendigedig.” (1 Pedr 2:9). Dŷn ni'n byw wedi'n hamgylchynu gan dywyllwch mewn byd sy'n ysu am rywbeth rhagorol a gwir. Efallai nad oes “sffêr bywyd” mwy dylanwadol i ni lewyrchu goleuni Crist nag yn ein dewis o waith. Pan fyddwn yn gweithio gyda rhagoriaeth, mae gennym y fraint fawr o ogoneddu Duw a chyhoeddi ei ragoriaethau i'r byd o'n cwmpas. Dos ymlaen a gwna dy waith gyda rhagoriaeth heddiw!
Am y Cynllun hwn
Mae yna lawer o resymau da dros anelu at ragoriaeth yn ein gwaith: Mae rhagoriaeth yn hyrwyddo ein gyrfaoedd, yn rhoi dylanwad i ni, a gall arwain at gyfleoedd i rannu'r efengyl. Ond fel y bydd y cynllun tridiau hwn yn dangos, dylem fynd ar drywydd rhagoriaeth am reswm llawer mwy sylfaenol - oherwydd rhagoriaeth yw'r ffordd orau i ni adlewyrchu cymeriad Duw a charu a gwasanaethu ein cymdogion fel ein hunain trwy ein dewis o waith.
More