Gweinidogaeth RhagoriaethSampl
Rhagoriaeth ym Mhob Peth
Mae un o fy hoff ddisgrifiadau o Iesu yn dod o Marc 7:37 lle mae’n dweud “oedd pobl wedi’u syfrdanu’n llwyr ganddo. “Mae popeth mae’n ei wneud mor ffantastig.’” Fel dilynwyr Crist, dylai’r darn hwn roi cyfle i feddwl. Fel y rhai sy'n ceisio efelychu Iesu ym mhob ffordd y gellir ei ddychmygu, a allwn ni ddweud ein bod yn gwneud popeth yn dda? A allwn ddweud ein bod yn gwneud popeth gyda rhagoriaeth yn y gwaith a gartref?
Y ffaith yw, bod gan bob un ohonom rannau o’n bywydau lle dydyn ni ddim yn cyrraedd safon ragorol Iesu. Dw i’n credu fod hyn yn fwy gwir heddiw nag erioed o'r blaen. Pam? Oherwydd nawr yn fwy nag erioed, dŷn ni'n credu'r celwyddau fod gynnon ni’r gallu i wneud y cyfan, i fod y cwbl allwn fod, a chael y cyfan. Dŷn ni wedi’n gor-ymrwymo, wedi’n llethu, a dan ormod o straen, gan wneud milimetr o gynnydd i filiwn o gyfeiriadau gwahanol am ein bod yn methu gwahaniaethu rhwng yr hanfodol yn ein gwaith ac yn ein cartrefi. Rysáit ar gyfer cyffredinedd yw hon, nid rhagoriaeth, a byddwn i’n dadlau bod y broblem yn epidemig yn yr Eglwys heddiw.
Pam dylen ni falio? Oherwydd bod unrhyw beth llai na rhagoriaeth yn methu â chyrraedd y safon dŷn ni'n Gristnogion wedi cael ein galw iddi. Yn 1 Corinthiaid 10:31, mae Paul yn ysgrifennu: “Wrth fwyta ac yfed, neu wneud unrhyw beth arall wir, dylech chi anrhydeddu Duw.” Arferai y diweddar weinidog Dr. James Kennedy aralleirio y darn hwn, gan alw ei gynulleidfa i “ragoriaeth ym mhob peth a phob peth er gogoniant Duw.” Dyna yw'r safon dŷn ni'n cael ein galw iddi.
Y mae llawer o resymau da dros ddilyn rhagoriaeth ym mhob peth, yn enwedig yn ein dewis o waith. Mae rhagoriaeth yn ein galwedigaethau yn hybu ein gyrfaoedd, yn ein gwneud ni’n fuddugol i’r byd, yn rhoi dylanwad inni, a gall arwain at gyfleoedd i rannu’r efengyl. Ond ni ddylai unrhyw un o’r pethau da hyn fod yn brif gymhellion inni wrth inni ddilyn rhagoriaeth yn ein gwaith a’r rolau eraill y mae Duw wedi ein galw i’w cyflawni yn ein bywydau. Dŷn ni’n dilyn rhagoriaeth at ddiben llawer mwy sylfaenol - oherwydd rhagoriaeth yw'r ffordd orau i ni adlewyrchu cymeriad Crist a charu a gwasanaethu ein cymdogion fel ni ein hunain. Mewn geiriau eraill, rhagoriaeth yw ein ffurf fwyaf beunyddiol ar weinidogaeth. Fel y gwelwn dros y ddau ddiwrnod nesaf, trwy'r weinidogaeth rhagoriaeth dŷn ni’n gogoneddu Duw ac yn caru eraill yn dda trwy ein gwaith.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae yna lawer o resymau da dros anelu at ragoriaeth yn ein gwaith: Mae rhagoriaeth yn hyrwyddo ein gyrfaoedd, yn rhoi dylanwad i ni, a gall arwain at gyfleoedd i rannu'r efengyl. Ond fel y bydd y cynllun tridiau hwn yn dangos, dylem fynd ar drywydd rhagoriaeth am reswm llawer mwy sylfaenol - oherwydd rhagoriaeth yw'r ffordd orau i ni adlewyrchu cymeriad Duw a charu a gwasanaethu ein cymdogion fel ein hunain trwy ein dewis o waith.
More