Stori'r PasgSampl
DYDD IAU - Rho dy hun yn esgidiau dilynwyr cyntaf Iesu, oedd yna pan fuodd o farw. Byddet ti wedi torri dy galon. Byddai dy galon yn rasio. Nid dyma oedd i fod i ddigwydd i Frenin yr Iddewon! Roedd o'n mynd i wneud popeth yn iawn. Trwsio beth oedd wedi torri. Adfer beth oedd wedi ei golli. Ond bellach, yn ôl pob golwg, mae'r cwbl ar ben. Mae popeth wedi torri. Does dim byd yn iawn. Treulia amser heddiw yn ceisio byw yn y bwlch yna rhwng y groes a'r bedd gwag. Pan mae gobaith wedi diflannu. Cyn i ras ddod. Defnyddia'r teimlad yna i ysgogi gweddi dros rywun wyt ti'n ei nabod sy'n byw yna bob dydd. Gofyn i Dduw ddangos i ti sut i'w cyrraedd a'u gwahodd i wasanaethau'r Pasg y penwythnos yma.
Am y Cynllun hwn
Sut fyddet ti'n gwario wythnos olaf dy fywyd petaet ti'n gwybod mai hon oedd yr olaf? Roedd wythnos olaf Iesu ar y ddaear yn llawn digwyddiadau cofiadwy, proffwydoliaethau yn cael eu cyflawni, gweddiau dwys, trafodaethau dwfn, gweithredoedd symbolaidd, a digwyddiadau fyddai'n newid y byd. Mae'r cynllun yma'n dechrau ar y dydd Llun cyn y Pasg, ac yn dy arwain drwy benodau'r pedair Efengyl sy'n adrodd hanes yr wythnos Sanctaidd.
More
Carem ddiolch i Life.Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.Life.Church