Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Stori'r PasgSampl

The Story of Easter

DYDD 3 O 7

DYDD MERCHER - roedd gan Iesu un cais olaf. Roedd yn gwybod beth oedd o'i flaen y diwrnod wedyn, ond roedd ei weddi olaf drosot ti, nid drosto'i hun. Droson ni i gyd. Gweddiodd Iesu dros ei ddilynwyr. Mae gweddi Iesu yn ffenestr ryfeddol i weld ewyllys Duw ar ein cyfer. Bydd di yn ateb i weddi Iesu yr wythnos yma. Dos drwy ei weddi bob yn llinnell i weld sut. Y penwythnos yma, wrth i'r Eglwys fydeang uno ddathlu ei atgyfodiad, gad i ni edrych am ffyrdd i fod yn un â Duw ac yn un â'n gilydd. Gwna weddi Iesu yn weddi i ti - y bydd y byd yn gweld ei ogoniant ac yn dod i'w adnabod drwy ein hundod ni a chariad Duw.
Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

The Story of Easter

Sut fyddet ti'n gwario wythnos olaf dy fywyd petaet ti'n gwybod mai hon oedd yr olaf? Roedd wythnos olaf Iesu ar y ddaear yn llawn digwyddiadau cofiadwy, proffwydoliaethau yn cael eu cyflawni, gweddiau dwys, trafodaethau dwfn, gweithredoedd symbolaidd, a digwyddiadau fyddai'n newid y byd. Mae'r cynllun yma'n dechrau ar y dydd Llun cyn y Pasg, ac yn dy arwain drwy benodau'r pedair Efengyl sy'n adrodd hanes yr wythnos Sanctaidd.

More

Carem ddiolch i Life.Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.Life.Church