Stori'r PasgSampl
DYDD MAWRTH - Rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn gwybod pwy ydyn ni yn y darlun o'r winllan. Y canghenau ydyn ni. Ein lle ni ydy dal gafael yn Iesu, y winwydden. Wrth wneud hynny byddwn yn cyflawni ein hunig bwrpas: dwyn ffrwyth. Meddylia - y garddwr sy'n gwneud popeth arall sy'n digwydd yn y winllan. Duw ydy hwnnw. Nid fi na ti. Ein lle ni ydy gadael iddo fo weithio trwom ni am ein bod wedi'n cysylltu â'r winwydden. Myfyria heddiw ar pwy wyt ti a beth wyt ti'n cael dy alw i'w wneud. Glynu. Aros. Cysylltu. Dal gafael. Trigo. Dyna'r cwbl, dim byd arall.
Am y Cynllun hwn
Sut fyddet ti'n gwario wythnos olaf dy fywyd petaet ti'n gwybod mai hon oedd yr olaf? Roedd wythnos olaf Iesu ar y ddaear yn llawn digwyddiadau cofiadwy, proffwydoliaethau yn cael eu cyflawni, gweddiau dwys, trafodaethau dwfn, gweithredoedd symbolaidd, a digwyddiadau fyddai'n newid y byd. Mae'r cynllun yma'n dechrau ar y dydd Llun cyn y Pasg, ac yn dy arwain drwy benodau'r pedair Efengyl sy'n adrodd hanes yr wythnos Sanctaidd.
More
Carem ddiolch i Life.Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.Life.Church