Dod o hyd i HeddwchSampl
Yr Heddwch mae Duw yn ei Roi
Os wyt yn fyfyriwr y Beibl, Dw i'n siŵr dy fod wedi sylweddoli fod persbectif Duw, yn aml, yn cael ei roi mewn ffurf o gymharu a chyferbynnu. Er enghraifft roedd yn aml yn cyferbynnu'r cyfoethog a thlawd, y doeth a'r ffôl, tywyllwch a goleuni, ac awrth ystyried win testun, yr heddwch sy'n dod gan Dduw o'i gymharu i'r heddwch sydd i'w gael yn y byd. Dwedodd Iesu, "Heddwch – dyna dw i'n ei roi yn rhodd i chi....Dw i ddim yn rhoi heddwch yn yr un ffordd a'r byd." (Ioan 14:27).
Yn sicr, roedd y Meistr yn datgan fod yr heddwch mae e'n ei roi i'w ddilynwyr yn wahanol i'r heddwch y gallen nhw ddod o hyd iddo yn y byd. Pan gyfeiriodd Iesu at "y byd" roedd e'n siarad am y gymdeithas a diwylliant ble rydym ni fel dynoliaeth yn byw.
Wyt ti wedi bod ar fôr tymhestlog erioed? Dw i wedi profi stormydd ar y môr nifer o weithiau ac i ddweud y gwir, dw i ddim yn eiddgar iawn i brofi hynny eto! Ar yr wyneb gall y gwyntoedd chwythu hyd at 40, 60 a 100 milltir yr awr, gyda glaw trwm, mellt, taranau, a thywyllwch dudew. Gall tonau godi hyd at 20, 30 a 50 troedfedd o uchder. Gall llong yn y fath storm gael ei thaflu o gwmpas fel tegan. Mae'n hawdd i awn i long suddo yn y fath stormydd. Ond, dan yr wyneb, prin 100 troedfedd i lawr does dim storm. Mae hi'n berffaith dawel. Dim sŵn. Dim cynnwrf. Dim hyd yn oed rhithyn o gynnwrf.
Mae'r ffaith hon yn gwneud i mi feddwl am Heddwch Duw. Mae'n rhoi rhyw awgrym bach o beth roedd Duw yn siarad amdano pan addawodd ei heddwch i'w ddisgyblion. Dwedodd wrthyn nhw, am eu bod yn ddilynwyr iddo, bydde'n nhw'n cael trafferth yn y byd. I ddweud y gwir dwedodd y bydde rhai ohonyn nhw'n cael eu herlid am eu bod yn ddisgyblion iddo. Er gwaethaf hyn, dwedodd na fyddai fyth yn gadael y rheiny oedd yn ei ddilyn, a'i bresenoldeb cyson fyddai'r rheswm y bydden nhw'n teimlo ei bresenoldeb.
Pan fydd ofnau, pryderon a helyntion yn codi yn dy fywyd, chwilio am yr arwyddion canlynol o heddwch wrth iddo...
Ragori ar sefylfaoedd. Yn aml, gellir gweld a theimlo heddwch ynghanol treialon a helyntion. Ond, er gwaethaf yr hyn rwyt yn ei brofi, dylet wybod hyn. Duw yw dy heddwch. Rho dy ffydd ynddo fe.
Rhagori ar ddealltwriaeth. Fedrwn ni ddim, bob amser, wneud synnwyr o heddwch Duw. Ond mae'n weithredol ac yna ar ein cyfer - ymhell bell tu hwnt ein gallu i'w ddeall.
Mae'n ymestyn i'w holl ddilynwyr.Mae heddwch Duw wedi'i ymestyn i bob unperson sy'n derbyn Iesu fel ei Waredwr, yn troi oddi wrth eu pechod, ac yn ymlid bywyd o ufudd-dod i arweiniad Gair Duw a'r Ysbryd Glân.Yn gyson arhosol. Mewn sefyllfaoedd anodd o fywyd mae'r Ysbryd Glân yna i helpu. Heddwch - dwfn, diffuant, yn rodd gan Dduw all fod y norm ar gyfer byw o ddydd i ddydd.Wrth i ti barhau ar daith bywyd, trystia a chreda mai dymuniad duw yw, i ti deimlo heddwch arhosol drwy'r amser - heddwch sy'n cynnwys llawenydd a theimlad o bwrpas ym mhob rhan o dy fywyd.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Wyt ti eisiau mwy o heddwch yn dy fywyd? Wyt ti eisiau tawelwch i fod yn fwy na dim ond dymuniad? Mi elli di ennill heddwch, ond dim ond o un ffynhonnell - Duw. Ymunwch â Dr. Charles Stanley wrth iddo ddangos y ffordd i dawelwch newydd i'r meddwl, fydd yn cynnig yr arfau sydd eu hangen i ddatrys gofidiau'r gorffennol, i wynebu pryderon y presennol, a lleddfu pryderon am y dyfodol.
More