Ceisio Calon Duw Bob Dydd - DoethinebSampl
Ofn Doeth
Mae yna ofnau doeth. Ofn Duw yw un ohonyn nhw. Mae’n sylfaenol. Mae’n bwydo pob ffydd arall. Mae’r dyn neu ddynes sy’n ofni Duw gyntaf yn ddoeth. Mae ofn Duw yn frwd ar ddechrau eich taith ffydd. Dyma gyfnod o fis mêl yn y briodas â Christ. Dwyt ti ddim yn gwybod ddim gwell na gwneud yr hyn a ddisgwylir. Ond os esgeulusir ofn Duw, rwyt yn crwydro i anufudd-dod (Salm 36:1). Fel unrhyw gred neu ddisgyblaeth arall, mae angen i ofn Duw gael ei feithrin trwy ffydd ac ufudd-dod. Mae ofn Duw yn dy gadw'n onest ag e ac â thi dy hun. Dyma ddechrau atebolrwydd. Rhith yw gras Duw - heb ofni Duw. Ni all fod gras heb ofn, yn union fel nad oes ofn heb ras. Ffôl yw'r un nad yw'n ofni Duw. Ffrwyth peidio ag ofni Duw yw dewisiadau ffôl a byw'n ddisgybledig.
Ymhellach, mae llwyddiant yn elyn i ofni'r Arglwydd. Po fwyaf y byddi di’n profi llwyddiant, y mwyaf rwyt ti'n dueddol o beidio ag ofni. Fodd bynnag, mae angen i'r gwrthwyneb fod yn wir. Po fwyaf o lwyddiannau y byddi di'n eu mwynhau, y mwyaf y mae arnat ti ei angen i ofni Duw ac ofni canlyniadau pechod. Mae llwyddiant, lawer gwaith, yn rhoi annibyniaeth i ti. Yma byddai’n ddoeth iti gynyddu lefel dy atebolrwydd. Bydd yn greulon o onest gyda thi dy hun. Dwyt ti ddim yn gallu trin ymreolaeth heb atebolrwydd. Ni allai Dafydd, ac yr oedd yn ddyn ar ôl calon Duw (Actau 13:22). Mae ymreolaeth heb atebolrwydd yn arwain at gyfres o benderfyniadau gwael, ac yn cael eu gadael heb eu gwirio, i ymddygiad anfoesol. Nid oes neb uwchlaw'r gyfraith, ac nid oes neb uwchlaw atebolrwydd.
Doeth yw'r arweinydd sy'n adeiladu atebolrwydd yn ei ffydd, ei gyllid, ei deulu, ei waith a'i hamdden. Y rhai nad ydyn nhw'n meddwl bod ei angen arnyn nhw sydd ei angen fwyaf. Falle y byddi di'n dechrau trwy gyflogi cynorthwyydd personol o'r un rhyw sydd gyda thi yn y gwaith ac ar deithiau busnes. Dyma dy gyfle i fentora arweinydd ifanc, addawol, a’i gyfle ef neu hi yw eich dal yn atebol. Dŷn ni i gyd yn gwneud yn well pan fydd eraill yn gwylio. Mae ofn yr Arglwydd yn dy gadw rhag pechu (Exodus 20:20). Gwahodda atebolrwydd gan dy briod, bwrdd, pennaeth, a grŵp atebolrwydd. Bydd yn dryloyw gyda dy gyllid proffesiynol a phersonol. Dweda wrth dy briod pan fyddi'n dod yn gysylltiedig yn emosiynol â rhywun arall. Bydd yn gynnil iawn am dy amser tawel. Mae segurdod yn arwain at ddiffyg disgresiwn. Rwyt yn ddoeth i gadw amser ar ben dy hun ar gyfer dy Waredwr, dy briod, a ffrindiau arbennig. Ofn Duw yw eich ffrind. Mae ofn canlyniadau pechod yn beth da. Mae ofn o atebolrwydd yn ddoeth. Mae ofn Duw yn rhyddhau. Felly, ofna Dduw, casâ bechod, ac thrystia ynddo.
Am fwy o wybodaeth ar Chwilio’n ddyddiol galon Duw, dos i:
Am y Cynllun hwn
Mae Ceisio Calon Duw Bob Dydd yn gynllun darllen 5 diwrnod gyda’r bwriad o’n hannog, herio, a’n helpu ar hyd llwybr bywyd bob dydd. Fel y dywedodd Boyd Bailey, "Ceisiwch Ef hyd yn oed pan nad wyt ti'n teimlo fel gwneud, neu pan fyddi di'n rhy brysur a bydd e’n gwobrwyo dy ffyddlondeb.” Mae’r Beibl yn dweud, “Mae'r rhai sy'n gwneud beth mae'n ddweud, ac yn rhoi eu hunain yn llwyr iddo wedi eu bendithio'n fawr!” Salm 119:2
More