Ceisio Calon Duw Bob Dydd - DoethinebSampl
Doethineb o Ostyngeiddrwydd
Mae doethineb yn llawn gostyngeiddrwydd. Mae’n rhan ddyrys o ostyngeiddrwydd. Mae gostyngeiddrwydd yn llawn cynnwys gwerthfawr. Yn wir, doethineb yw un o’r adnoddau sydd â’r mwyaf o barch ato. Os wyt ti eisiau doethineb bydd angen i ti gael calon ostyngedig. Mae gostyngeiddrwydd fel gyrrwr car yn dy gludo i ben y daith. Mae doethineb yn teithio llaw yn llaw â gostyngeiddrwydd. I raddau mae doethineb yn ildio’i le i ostyngeiddrwydd. Mae’r gostyngedig yn sylweddoli eu hangen am ddoethineb Duw. Mae’r esgus o athro hunan-benodedig, sy’n meddwl ei fod yn gwybod popeth, wedi mynd. Mae gostyngeiddrwydd yn gwbl glir yn ei angen i feddyliau Crist groesi ei ddeallusrwydd. Mae gostyngeiddrwydd yn ddigon craff i gyfaddef yr hyn nad yw'n ei wybod.
Mae gormod o fywyd y tu hwnt i gyrraedd rheswm dynol. Rhaid cael mwy na dirnadaeth dyn. Dŷn ni ddim yn ddigon gwrthrychol i ddarganfod y dewis gorau gyda'n dealltwriaeth gyfyngedig ein hunain. Mae arnom angen doethineb Duw i olchi ein ffordd o feddwl a gadael ei weddillion cyfiawn. Mae gostyngeiddrwydd yn ein gosod ni i dderbyn doethineb gan Dduw ac eraill. Mae’n broses o dyfu. Tyfodd Iesu, hyd yn oed, mewn doethineb (Luc 2:52).
`Mae balchder yn dy rwystro rhag derbyn doethineb. Mae fel chwaraewr pêl fas sydd allan o’i le ar y cae chwarae i ddal pil sy’n dod drwy’r awyr i’w gyfeiriad. Heb ostyngeiddrwydd dwyt ti ddim yn y lle iawn i dderbyn doethineb. Falle dy fod yn chwennych derbyn doethineb, ond heb ostyngeiddrwydd fe fyddi di’n ddirfawr o brin o arweiniad nefol. Anaml iawn mae Duw’n gallu rhoi ei ddoethineb i berson balch oherwydd mae e’n gwybod na all ei drystio. Pam dylid ymddiried gwybodaeth mor werthfawr i un fydd yn ei wastraffu neu ei ddefnyddio i’w les ei hun? Mae Duw’n gwybod y bydd y gostyngedig o galon yn stiward da o’i ddoethineb. Yn wir, mae gostyngeiddrwydd yn rhoi yn y galon newyn am ddoethineb. Mae’n creu archwaeth am friwsion doethineb.
Ar ôl i chi addasu eich diet ysbrydol i fwyta doethineb, fyddwch chi byth yn mynd yn ôl at fwyd sothach doethineb bydol (1 Corinthiaid 1:20-30). Mae doethineb y byd wedi ei leoli mewn balchder. Mae’n strygl dros bŵer gan bwy all fod y craffaf a'r cyflymaf i drechu eu gwrthwynebydd. Mae popeth yn gystadleuaeth i'r balch. Mae'n ffôl yn cystadlu am safle trwy ei allu ei hun. Mae'r gostyngedig, ar y llaw arall, yn amyneddgar i aros ar Dduw. Mae dyfnder o ddiwydrwydd a phenderfyniad sy'n cyd-fynd â doethineb a phendantrwydd sy’n dod o drystio’n ostyngedig yn Nuw. Gwarth yw partner teithiol balchder. Efallai y bydd balchder yn rhoi'r hyn rwyt ti ei eisiau, ond dim ond gyda sgil o warth wrth edrych nôl.
Gwell yw bod yn ostyngedig a dilyn ffyrdd doethineb. Mae doethineb yn dy alluogi i orffwys yn dda; doethineb sy'n rhoi gras; doethineb yn cael canlyniadau heb unrhyw difaru. Felly, yn ostyngedig gwahodda a chroesawa yn noethineb grasol Duw.
Am y Cynllun hwn
Mae Ceisio Calon Duw Bob Dydd yn gynllun darllen 5 diwrnod gyda’r bwriad o’n hannog, herio, a’n helpu ar hyd llwybr bywyd bob dydd. Fel y dywedodd Boyd Bailey, "Ceisiwch Ef hyd yn oed pan nad wyt ti'n teimlo fel gwneud, neu pan fyddi di'n rhy brysur a bydd e’n gwobrwyo dy ffyddlondeb.” Mae’r Beibl yn dweud, “Mae'r rhai sy'n gwneud beth mae'n ddweud, ac yn rhoi eu hunain yn llwyr iddo wedi eu bendithio'n fawr!” Salm 119:2
More