Ceisio Calon Duw Bob Dydd - DoethinebSampl
Trysor Doethineb
Mae doethineb fel arian. Mae ei werth yn newid dros amser. Os wyt ti'n ychwanegu doethineb at dy fywyd yn rheolaidd, rwyt ti'n dod yn gyfoethog yn ffyrdd Duw. Dyma pam ei bod yn hanfodol dy fod yn cael doethineb uwchlaw'r rhan fwyaf o bopeth arall yn dy fywyd. Doethineb yw'r gallu i ddirnad da a drwg ac i ddeall beth sy'n wir ac yn para. Bydd yn gyfaill i ti ac yn dy gynorthwyo i drechu'r gelyn. Mae Satan yn ddi-rym ym mhresenoldeb doethineb Duw. Paid trio trechu'r diafol gyda dy ddealltwriaeth gyfyngedig dy hun. Yn hytrach, dinistria e ag arf doethineb. Gall bywyd a adeiladwyd ar sylfaen doethineb wrthsefyll gwyntoedd sy’n newid a thonnau adfyd (Diarhebion 28:26). Mae doethineb yn dy gadw mewn cysylltiad â safbwynt Duw. Mae'n achubwr bywyd i'r rhai sy’n boddi, yn gwmpawd i'r teithiwr coll, ac yn oleuni ar sefyllfa dywyll a dryslyd.
Mae doethineb fel aur, a dydy aur ddim wastad yn hawdd i'w ffeindio. Mae yna bris i’w dalu. Mae yna bris i’w dalu yn y broses o’i ffeindio ac o’i gael. (Diarhebion 16:16).
Dydy gwallt sydd wedi britho ddim yn gwarantu doethineb, ond mae profiad amlwg yn dy roi mewn sefyllfa i dderbyn doethineb. Mae’n bosibl i fod yn annoeth neu i fod yn ddoethyn anarferol o ifanc. Boed yn ifanc neu hen, clyfar neu’n gyffredin o ran gallu, mae modd i ti dderbyn doethineb.
Mae doethineb yn dechrau ac yn gorffen gydag ofn Duw. Mae ofn Duw yn golygu dy fod yn ymgysylltu â'i ddysgeidiaeth gyda dy galon a'th feddwl (Diarhebion 15:33). Mae doethineb yn atal perthynas oddefol â Duw. Mae doethineb yn golygu dy fod yn myfyrio ar ei ffyrdd a'i wirioneddau. Rwyt ti'n gofyn yn weddigar a pharchus iddo, pam, beth, a sut mae'n berthnasol i'w ffordd e o wneud pethau. Fel dilynwyr Duw, mae gennym ni feddwl Crist. Trwy fyfyrio ar ei Air a deall ei wirionedd, bydd doethineb yn dechrau teyrnasu yn ein bywyd bob dydd. Trwy ras Duw, bydd doethineb yn caniatáu iti syntheseiddio opsiynau lluosog i'r ffordd orau o weithredu.
Gall doethineb gymryd sefyllfa gymhleth a chynnig atebion syml. Mae gan ddoethineb y gallu rhyfedd i dorri trwy'r haenau o agendâu a chymhellion, a mynd i'r afael â'r materion go iawn. Mae doethineb yn amddiffynnydd di-lol o synnwyr cyffredin a gwirionedd. Mae'n ymarferol iawn.
Mae doethineb yn tarddu oddi wrth Dduw ac yn byw gydag e. Mae ganddo'r nod masnach a'r patent. Gall unrhyw un sy'n ceisio cymryd clod am ei effeithiolrwydd wynebu risg o golli'r hawl i'w ddefnyddio. Mae gostyngeiddrwydd wedi'i dymheru â doethineb yn arwain at wneud penderfyniadau doeth. Cymra amser i wrando a dysgu gan bobl ddoeth. Gallai hyn arbed torcalon i ti rhag chwalfa mewn perthynas, neu golli arian oherwydd penderfyniad ariannol gwael. Bydd yn ddoeth; gwranda ar Dduw a'i fentoriaid doeth.
Rwyt ti’n derbyn doethineb er mwyn rhoi doethineb, gan rannu cyfoeth doethineb gyda’r rheiny sy’n ei stiwardio’n dda.
Am y Cynllun hwn
Mae Ceisio Calon Duw Bob Dydd yn gynllun darllen 5 diwrnod gyda’r bwriad o’n hannog, herio, a’n helpu ar hyd llwybr bywyd bob dydd. Fel y dywedodd Boyd Bailey, "Ceisiwch Ef hyd yn oed pan nad wyt ti'n teimlo fel gwneud, neu pan fyddi di'n rhy brysur a bydd e’n gwobrwyo dy ffyddlondeb.” Mae’r Beibl yn dweud, “Mae'r rhai sy'n gwneud beth mae'n ddweud, ac yn rhoi eu hunain yn llwyr iddo wedi eu bendithio'n fawr!” Salm 119:2
More