Gair Duw ar gyfer Pob AngenSampl
Cymera sylw – cawn ein galw yn blant i Dduw!
Yn y defosiwn blaenorol gwelsom mai Duw yw'r Tad sydd wedi estyn ei gariad rhyfeddol tuag atom. Yn syth ar ôl pwysleisio hyn, mae’r Apostol Ioan yn ein hatgoffa ein bod ni, os ydyn ni wedi dewis dilyn Iesu, yn cael ein galw’n “blant i Dduw.” Dyma pwy ydyn ni mewn gwirionedd. Dyma ein gwir hunaniaeth. Dydy ein hunanddelwedd ddim yn seiliedig ar yr hyn a wnawn. Dydy ein hunan-werth ddim yn seiliedig ar ein cyflawniadau. Na, mae ein gwir hunaniaeth wedi'i seilio ar rywbeth mwy parhaol a diogel. Pa sylfaen well na datguddiad canolog y Testament Newydd - mai meibion a merched mabwysiedig y Tad yw’r rhai sy’n adnabod Iesu? Ai dyna sut rwyt ti'n gweld dy hun? Os na, gad imi dy annog i adeiladu dy hunaniaeth ar y gwirionedd hwn. Gad imi dy annog i wneud yr hyn y mae’r Apostol Ioan yn ei ddweud yma ac “cymera sylw.” Ystyria, myfyria, synfyfyria ar y gwirionedd hwn ac yna ymhyfryda yn ei harddwch. Os felly, bydd gen ti bob amser sicrwydd dwfn fod dy ddiogelwch yn dy sefyllfa fel plentyn i Dduw, nid yn dy waith.
GWEDDI
Dad annwyl, dw i eisiau rhoi clod i ti dy fod ti'n fy ngharu i am yr hyn ydw i - plentyn Duw. Diolch am yr anrhydedd hwn. Yn enw Iesu. Amen.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Gall bywyd fod yn anodd, a phan fyddi di'n wynebu heriau ac angen anogaeth, y lle gorau i fynd yw Gair Duw. Ond weithiau mae'n anodd gwybod ble i edrych. Mae Gair Duw ar gyfer Pob Angen yn cynnwys ysgrythurau hollbwysig i bob myfyriwr y Gair chwilio amdanyn nhw’n ystod cyfnodau prysur a drwg bywyd. Dibynna ar Dduw i'th helpu trwy dy gyfnodau anodd.
More