Gair Duw ar gyfer Pob AngenSampl
EIN GWIR HUNANIAETH
“ byddwch chi yn feibion a merched i mi.”
Mae gan bob tad da freuddwyd i'w blant. Yn y defosiwn blaenorol gwelsom ran o freuddwyd Duw ar ein cyfer: “Bydda i’n Dad i chi.” Dyna oedd ei gynllun e er cyn gosod seiliau’r byd. Ond mae mwy. Nid yn unig y mae Duw am inni wybod ei wir hunaniaeth; Mae hefyd eisiau i ni wybod ein gwir hunaniaeth. Os yw e’n Dad i ni, beth y mae hynny yn ein gwneud ni? Os ydym yn dewis dilyn ei Fab, Iesu Grist, mae'n ein gwneud ni'n feibion a merched iddo. Dyma’r llawenydd mwyaf oll - gwybod mai Duw yw’r Tad dŷn ni i gyd wedi bod yn aros amdano, ac ymhyfrydu yn y fraint o fod yn feibion a merched mabwysiedig iddo. Dyma ei freuddwyd am ein bywydau. Gad i ni ei gwneud hi’r nod uchaf i ni fynd i gyflawnder yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn feibion a merched i'r Tad mwyaf oll. Gad i ni ei gwneud yn nod ein bywyd i fod y meibion gorau a'r merched gorau y gallem fyth fod i'n Tad yn y nefoedd. Dyma freuddwyd y Tad am ein bywydau. Gadewch i ni ei wneud yn freuddwyd i ni hefyd!
GWEDDI
Annwyl Dad, diolchaf i ti dy fod wedi fy ngalw i fod yn blentyn mabwysiedig i ti. Helpa fi i adeiladu fy hunaniaeth ar yr anrhydedd rhyfeddol hwn. Yn enw Iesu. Amen.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Gall bywyd fod yn anodd, a phan fyddi di'n wynebu heriau ac angen anogaeth, y lle gorau i fynd yw Gair Duw. Ond weithiau mae'n anodd gwybod ble i edrych. Mae Gair Duw ar gyfer Pob Angen yn cynnwys ysgrythurau hollbwysig i bob myfyriwr y Gair chwilio amdanyn nhw’n ystod cyfnodau prysur a drwg bywyd. Dibynna ar Dduw i'th helpu trwy dy gyfnodau anodd.
More