Gair Duw ar gyfer Pob AngenSampl
Y CARIAD MWYAF OLL
Mor rhyfeddol yw’r cariad mae’r Tad wedi’i estyn tuag atom!
Does dim mwy o lawenydd mewn bywyd na gwybod mai Duw yw ein Tad cariadus, ac eto nid yw llawer o bobl, gan gynnwys y rhai o fewn yr Eglwys, wedi profi'r llawenydd anhraethol hwn. Mae llawer wedi cael eu clwyfo gan eu tadau daearol ac, o ganlyniad, yn taflu eu profiad eu hunain o fod yn dad ar Dduw’r Tad. Yna maen nhw'n creu Duw ar ddelw eu tad daearol - yn gweld Duw fel rhiant absennol neu sydd wedi gadael. Mae gan eraill ddarlun o Dduw fel Tad pell a dialgar. Nid yw hyn yn gynrychiolaeth gywir o'r darlun y mae Iesu'n ei beintio. Daeth Iesu i ddangos cariad rhyfeddol y Tad. Ydy, mae Duw yn Frenin. Ydy, mae Duw yn Arglwydd. Ydy, mae Duw yn Farnwr. Ond yn bennaf ef yw'r Tad a garodd y blaned amddifad hon mor ddwfn nes iddo anfon ei unig Fab i droi caethweision yn feibion ac amddifad yn etifeddion. Dyma'r fendith uchaf oll - gwybod mai Duw yw Tad mwyaf y byd. Os na ches di dad ar y ddaear, dylet wybod fod gen ti Dad perffaith yn y nefoedd ac y mae e wedi estyn ei gariad rhyfeddol atat yn Iesu.
GWEDDI
O Dad, diolchaf iti nad wyt yn anghysbell ond yn berthynol. Helpa fi i fwynhau mwy o agosatrwydd gyda thi wrth i mi ddarllen y defosiynau hyn. Yn enw Iesu. Amen.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Gall bywyd fod yn anodd, a phan fyddi di'n wynebu heriau ac angen anogaeth, y lle gorau i fynd yw Gair Duw. Ond weithiau mae'n anodd gwybod ble i edrych. Mae Gair Duw ar gyfer Pob Angen yn cynnwys ysgrythurau hollbwysig i bob myfyriwr y Gair chwilio amdanyn nhw’n ystod cyfnodau prysur a drwg bywyd. Dibynna ar Dduw i'th helpu trwy dy gyfnodau anodd.
More