Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Oswald Chambers: Peace - Life in the SpiritSampl

Oswald Chambers: Peace - Life in the Spirit

DYDD 5 O 30

Weithiau mae ar blant ofn y tywyllwch. Mae ofn yn llenwi eu calonnau a nerfau ac maen nhw'n mynd i gyflwr ofnadwy. Wedyn mae nhw'n clywed llais mam neu dad, a mae popeth yn tawelu ac mae nhw'n syrthio i gysgu. Mae'r un peth yn wir yn ein profiad ysbrydol. Mae ryw ddychryn yn dod i'n cwrdd ac mae ofn dychrynllyd wedi gafael yn ein calonnau; ond yna dŷn ni'n clywed ein henw'n cael ei alw ac Iesu'n dweud, Fi sydd yna, paid â bod ofn," ac mae heddwch Duw, sydd tu hwnt i ddeall, yn gafael yn ein calonnau.

Gall dyn fyth fod run fath ar ôl clywed Iesu'n siarad. Falle ei fod yn dweud na wnaeth dalu sylw, falle ei fod yn ymddangos fel petai wedi anghofio amdano, ond nid yw fyth run fath, ac ar unrhyw ennyd gall gwirioneddau dreiddio i'w hunan gan ddifrodi ei holl heddwch a hapusrwydd.

Cwestiynau Myfyrdod: Beth sy'n peri ofn i mi? Pryd ydw i fwyaf tebygol o fod ag ofn? Pa eiriau gan Iesu sy'n fy mrawychu? Pa eiriau gan Iesu sy'n cael gwared ar fy ofn?

Dyfyniadau o Servant as His Lord a Run Today’s Race, © Discovery House Publishers
Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Oswald Chambers: Peace - Life in the Spirit

Mae Peace: Life in the Spirit yn n drysorfa ysbrydoledig o ddyfyniadau o weithiau Oswald Chambers, awdur defosiynol anwylaf y byd ac awdur My Utmost for His Highest. Tyrd o hyd i orffwys yn Nuw a chael dealltwriaeth ddyfnach o bwysigrwydd heddwch Duw yn dy fywyd.

More

Hoffem ddiolch i Discovery House Publishers am ddatparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.utmost.org