Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Oswald Chambers: Peace - Life in the SpiritSampl

Oswald Chambers: Peace - Life in the Spirit

DYDD 8 O 30

Mae'n fusnes hawdd i bregethu, yn beth hynod o hawdd i ddweud wrth bobl eraill beth i'w wneud; mae'n rywbeth gwahanol i gael gair Duw'n cael ei droi'n bwmerang - " Ti wedi bod yn dysgu'r pobl 'ma y dylen nhw fod yn llawn heddwch a llawenydd, ond beth amdanat ti?" Wyt ti'n llawn o heddwch a llawenydd?" Y tyst geirwir yw'r un sy'n gadael i'w olau ddisgleirio mewn gweithiau sy'n arddangos gwarediad Iesu; un sy'n byw'r gwirionedd yn ogystal â'i bregethu.

Y ffordd y mae bywyd duw'n amlygu ei hun mewn llawenydd yw mewn heddwch nad yw'n dymuno cael canmoliaeth. Pan mae dyn yn cyhoeddi neges y mae'n gwybod sydd yn neges gan Dduw, mae'r dystiolaeth i gyflawni'r pwrpas a grëwyd yn cael ei roi ar unwaith, mae heddwch Duw yn ei le, a nid yw ots gan y dyn am ganmoliaeth na bai gan neb.

Cwestiynau Myfyrdod; Pa wirionedd ydw i'n ei chyhoeddi'n well nag ydw i'n ei hymarfer? A oes gwrthdaro heb ei ddatrys rhyngof fi a rhywun arall sydd fel cysgod wedi'i dynnu dros olau Crist ynof? Pa falchder sy'n fy nghadw rhag creu heddwch rhyngom?

Dyfyniadau o The Love of God, © Discovery House Publishers

Ysgrythur

Diwrnod 7Diwrnod 9

Am y Cynllun hwn

Oswald Chambers: Peace - Life in the Spirit

Mae Peace: Life in the Spirit yn n drysorfa ysbrydoledig o ddyfyniadau o weithiau Oswald Chambers, awdur defosiynol anwylaf y byd ac awdur My Utmost for His Highest. Tyrd o hyd i orffwys yn Nuw a chael dealltwriaeth ddyfnach o bwysigrwydd heddwch Duw yn dy fywyd.

More

Hoffem ddiolch i Discovery House Publishers am ddatparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.utmost.org