Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Oswald Chambers: Peace - Life in the SpiritSampl

Oswald Chambers: Peace - Life in the Spirit

DYDD 10 O 30

Dydy "disgwyl yn dawel am Dduw" ddim yn golygu llithro i ryw deimlad, neu suddo i ryw synfyfyrdod, ond mynd i ganol pethau'n fwriadol a ffocysu ar Dduw. Pan rwyt wedi dod i berthynas â Duw drwy Gymod yr Arglwydd Iesu Grist ac yn canolbwyntio arno e, byddi'n profi cyfnodau rhyfeddol o gymundeb. Wrth i ti ddisgwyl yn unig am Dduw, gan ganolbwyntio ar amlinelliad gogoneddus ei Iachawdwriaeth byddi'n derbyn heddwch tawel Duw, yn y lle ble mae Duw'n gwneud pob dim yn unol â'i ewyllys.

Yr heddwch y mae ein Gwaredwr yn ei roi yw'r peth dyfnaf y gall personoliaeth ddynol ei brofi, mae'n hollalluog, heddwch sy'n pasio pob dealltwriaeth.

Cwestiynau Myfyrdod: Ydw i wedi mynd i mewn i “heddwch tawel” Duw lle dw i wedi gorffwys yn llwyr oherwydd fy mod i'n gwybod bod Duw yn gweithio trwof i, ac nid gweithio i Dduw ydw i?

Dyfyniadau o The Place of Help, © Discovery House Publishers
Diwrnod 9Diwrnod 11

Am y Cynllun hwn

Oswald Chambers: Peace - Life in the Spirit

Mae Peace: Life in the Spirit yn n drysorfa ysbrydoledig o ddyfyniadau o weithiau Oswald Chambers, awdur defosiynol anwylaf y byd ac awdur My Utmost for His Highest. Tyrd o hyd i orffwys yn Nuw a chael dealltwriaeth ddyfnach o bwysigrwydd heddwch Duw yn dy fywyd.

More

Hoffem ddiolch i Discovery House Publishers am ddatparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.utmost.org