Oswald Chambers: Peace - Life in the SpiritSampl

Mae ugain canrif wedi pasio ers i Iesu, Tywysog Heddwch, ddod a cyhoeddodd yr angylion heddwch ar y ddaear. Ond vle mae heddwch? Dydy'r Testament Newydd ddim yn dweud bod yr angylion wedi proffwydo heddwch: fe wnaethon nhw gyhoeddi heddwch - “Gogoniant i Dduw yn y nefoedd uchaf, heddwch ar y ddaear islaw. a bendith Duw ar bobl.” Fe ddaeth Iesu Grist i amlygu bod Duw gyda dyn, a thrwyddo Ef gellir gwneud unrhyw ddyn yn fab i Dduw yn ôl patrwm Iesu Grist. Dyma'r datguddiad Cristnogol.
Mae'r rheiny sydd yn dilyn Y Ffordd yn debyg iawn i Iesu, mae ei heddwch yn eu dangos mewn modd hollol amlwg. Mae golau'r bore ar eu hwynebau, ac mae llawenydd y bywyd diddiwedd yn eu calonnau. Lle bynnag maen nhw'n mynd, mae dynion yn cael eu gwneud yn fodlon neu eu hiacháu, neu'n cael eu gwneud yn ymwybodol o angen.
Cwestiynau myfyrdod: A yw fy mhresenoldeb yn cael ei nodi gan heddwch Crist? Ym mha ffyrdd ydw i'n cymryd rhan yn yr heddwch a gyhoeddodd Crist? Ym mha ffyrdd ydw i'n ei rwystro rhag dod yn realiti?
Dyfyniadau o The Place of Help, © Discovery House Publishers

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Mae Peace: Life in the Spirit yn n drysorfa ysbrydoledig o ddyfyniadau o weithiau Oswald Chambers, awdur defosiynol anwylaf y byd ac awdur My Utmost for His Highest. Tyrd o hyd i orffwys yn Nuw a chael dealltwriaeth ddyfnach o bwysigrwydd heddwch Duw yn dy fywyd.
More
Hoffem ddiolch i Discovery House Publishers am ddatparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.utmost.org