Oswald Chambers: Peace - Life in the SpiritSampl
Yr eiliad y daw Ysbryd Duw i mewn dŷn ni'n dechrau sylweddoli beth mae'n olygu - rhaid cael gwared ar bob dim sydd ddim o Dduw. Mae pobl mewn syndod ac yn dweud, "Wnes i ofyn am yr Ysbryd Glân ac ro'n i'n disgwyl llawenydd a heddwch, ond ers hynny dw i heb gael dim ond cyfnod ofnadwy." Dyna'r arwydd ei fod wedi dod, mae e'n taflu allan y "cyfnewidwyr arian", hynny yw, y pethau sydd wedi troi'r deml yn le masnachu ar gyfer hunan-wireddu.
Bydd yn ddiplomyddol. Bydd yn ddoeth. Cyfaddawda mewn ffordd craff a byddi'n cael popeth o dan dy reolaeth dy hun. Dyna 'r math o beth mae heddwch y byd yn seiliedig arno. Dŷn ei alw'n "ddiplomyddiaeth." Daliodd Iesu ei ffydd yn nulliau Duw er gwaethaf y temtasiynau a oedd mor ddoeth o bob safbwynt ac eithrio safbwynt Ysbryd Duw.
Cwestiynau myfyrdod: Pa aflonyddwch mae'r Iesu'n ei achosi'n fy mywyd? Beth mae e'n benderfynol o'i lanhau a'i daflu allan? Beth yw'r hyder dw i'n ei roi mewn diplomyddiaeth?
Dyfyniadau o Servant as His Lord, © Discovery House Publishers

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae Peace: Life in the Spirit yn n drysorfa ysbrydoledig o ddyfyniadau o weithiau Oswald Chambers, awdur defosiynol anwylaf y byd ac awdur My Utmost for His Highest. Tyrd o hyd i orffwys yn Nuw a chael dealltwriaeth ddyfnach o bwysigrwydd heddwch Duw yn dy fywyd.
More
Hoffem ddiolch i Discovery House Publishers am ddatparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.utmost.org