Oswald Chambers: Peace - Life in the SpiritSampl

Dŷn ni'n siarad am heddwch Iesu ond ydyn ni erioed wedi sylweddoli sut beth yw'r hedwch hwnnw? O ddarllen stori ei fywyd, y trideg mlynedd o ymostwng tawel yn Nasareth, y tair mlynedd o wasanaeth, y beirniadu, cam-driniaeth a chasineb ddioddefodd, y cyfan yn gymaint gwaeth nag unrhyw beth y byddwn ni'n ei brofi fyth; roedd ei heddwch yn ddiysgog a nid oedd modd ei chwalu. Yr heddwch hwnnw y bydd Duw'n ei ddangos ynom yn y nefolaidd leoedd, nid heddwch tebyg, ond yr union heddwch hwnnw. Ym mhrysurdeb bywyd, yn ein gwaith bob dydd, ym m hob sefyllfa gorfforol, ble bynnag mae Duw'n trefnu ein sefyllfaoedd - "Fy heddwch" - heddwch anorchfygol, anweladwy roddodd Iesu i ni ym mhob manylyn o'n bywydau.
Mae i'th gyffyrddiad ei bŵer bythol o hyd. Cyffyrdda fi. Arglwydd, fel bod gen i berthynas â ti fydd yn arwain at fy nghyfan yn tywynnu â'th heddwch a llawenydd.
Cwestiynau myfyrdod: A oes gen i'r math o heddwch all wrthsefyll ymosodiadau o enllibio a chasáu? Beth sy'n fwyaf tebygol o darfu ar fy heddwch? Pam?
Dyfyniadau wedi'u cymryd o Our Brilliant Heritage a Knocking at God’s Door, © Discovery House Publishers

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Mae Peace: Life in the Spirit yn n drysorfa ysbrydoledig o ddyfyniadau o weithiau Oswald Chambers, awdur defosiynol anwylaf y byd ac awdur My Utmost for His Highest. Tyrd o hyd i orffwys yn Nuw a chael dealltwriaeth ddyfnach o bwysigrwydd heddwch Duw yn dy fywyd.
More
Hoffem ddiolch i Discovery House Publishers am ddatparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.utmost.org