Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 10:1-13

Rhufeiniaid 10:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Fy nghyfeillion, ewyllys fy nghalon, a'm gweddi ar Dduw dros fy mhobl, yw iddynt gael eu dwyn i iachawdwriaeth. Gallaf dystio o'u plaid fod ganddynt sêl dros Dduw. Ond sêl heb ddeall ydyw. Oherwydd, yn eu hanwybodaeth am gyfiawnder Duw, a'u hymgais i sefydlu eu cyfiawnder eu hunain, nid ydynt wedi ymostwng i gyfiawnder Duw. Oherwydd Crist yw diwedd y Gyfraith, ac felly, i bob un sy'n credu y daw cyfiawnder Duw. Ysgrifennodd Moses am y cyfiawnder trwy y Gyfraith: “Y sawl sy'n cadw ei gofynion a gaiff fyw trwyddynt.” Ond fel hyn y dywed y cyfiawnder trwy ffydd: “Paid â dweud yn dy galon, ‘Pwy a esgyn i'r nef?’ ”—hynny yw, i ddwyn Crist i lawr— “neu, ‘Pwy a ddisgyn i'r dyfnder?’ ”—hynny yw, i ddwyn Crist i fyny oddi wrth y meirw. Ond beth mae'n ei ddweud? “Y mae'r gair yn agos atat, yn dy enau ac yn dy galon.” A dyma'r gair yr ydym ni yn ei bregethu, gair ffydd, sef: “Os cyffesi Iesu yn Arglwydd â'th enau, a chredu yn dy galon fod Duw wedi ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, cei dy achub.” Oherwydd credu â'r galon sy'n esgor ar gyfiawnder, a chyffesu â'r genau sy'n esgor ar iachawdwriaeth. Y mae'r Ysgrythur yn dweud: “Pob un sy'n credu ynddo, ni chywilyddir mohono.” Nid oes dim gwahaniaeth rhwng Iddewon a Groegiaid. Yr un Arglwydd sydd i bawb, sy'n rhoi o'i gyfoeth i bawb sy'n galw arno. Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur, “bydd pob un sy'n galw ar enw yr Arglwydd yn cael ei achub, pwy bynnag yw.”

Rhufeiniaid 10:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Frodyr a chwiorydd annwyl, dw i’n dyheu o waelod calon ac yn gweddïo ar Dduw y bydd fy mhobl, yr Iddewon, yn cael eu hachub. Galla i dystio eu bod nhw’n frwdfrydig dros Dduw, ond dŷn nhw ddim wedi deall y gwirionedd. Yn lle derbyn ffordd Duw o ddod â phobl i berthynas iawn ag e ei hun, maen nhw wedi mynnu ceisio gwneud eu hunain yn iawn gyda Duw drwy gadw’r Gyfraith. Felly maen nhw wedi gwrthod plygu i Dduw. Ond y Meseia ydy’r nod mae Cyfraith Duw yn anelu ato! Felly y rhai sy’n credu ynddo fe sy’n cael eu derbyn i berthynas iawn gyda Duw. Dyma ddwedodd Moses am y Gyfraith fel ffordd o gael perthynas iawn gyda Duw: “Y sawl sy’n gwneud y pethau yma sy’n cael byw go iawn.” Ond mae cael perthynas iawn gyda Duw drwy gredu yn dweud: “Paid meddwl: Pwy wnaiff fynd i fyny i’r nefoedd?” (hynny ydy, i ddod â’r Meseia i lawr) neu “Pwy wnaiff fynd i lawr i’r dyfnder” (hynny ydy, i ddod â’r Meseia yn ôl yn fyw). Dyma mae’n ei ddweud: “Mae’r neges yn agos atat ti; mae ar dy wefusau ac yn dy galon di.” (Hynny ydy, y neges dŷn ni’n ei chyhoeddi, sef mai credu ydy’r ffordd): Os wnei di gyffesu ‘â’th wefusau’, “Iesu ydy’r Arglwydd”, a chredu ‘yn dy galon’ fod Duw wedi’i godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, cei dy achub. Credu yn y galon sy’n dy wneud di’n iawn gyda Duw, a chei dy achub wrth gyffesu hynny’n agored. Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Fydd pwy bynnag sy’n credu ynddo ddim yn cael ei siomi.” Mae’n union yr un fath i’r Iddew ac i bawb arall. Un Arglwydd sydd, ac mae’n rhoi yn hael o’i fendithion i bwy bynnag sy’n galw arno. Achos, “Bydd pwy bynnag sy’n galw ar enw’r Arglwydd yn cael ei achub.”