Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 10

10
1Fy nghyfeillion, ewyllys fy nghalon, a'm gweddi ar Dduw dros fy mhobl, yw iddynt gael eu dwyn i iachawdwriaeth. 2Gallaf dystio o'u plaid fod ganddynt sêl dros Dduw. Ond sêl heb ddeall ydyw. 3Oherwydd, yn eu hanwybodaeth am gyfiawnder Duw, a'u hymgais i sefydlu eu cyfiawnder eu hunain, nid ydynt wedi ymostwng i gyfiawnder Duw. 4Oherwydd Crist yw diwedd#10:4 Neu, Oherwydd Crist yw diben. y Gyfraith, ac felly, i bob un sy'n credu y daw cyfiawnder Duw.
Iachawdwriaeth i Bawb
5Ysgrifennodd Moses am y cyfiawnder trwy y Gyfraith: “Y sawl sy'n cadw ei gofynion a gaiff fyw trwyddynt.” 6Ond fel hyn y dywed y cyfiawnder trwy ffydd: “Paid â dweud yn dy galon, ‘Pwy a esgyn i'r nef?’ ”—hynny yw, i ddwyn Crist i lawr— 7“neu, ‘Pwy a ddisgyn i'r dyfnder?’ ”—hynny yw, i ddwyn Crist i fyny oddi wrth y meirw. 8Ond beth mae'n ei ddweud?
“Y mae'r gair yn agos atat,
yn dy enau ac yn dy galon.”
A dyma'r gair yr ydym ni yn ei bregethu, gair ffydd, sef: 9“Os cyffesi Iesu yn Arglwydd â'th enau, a chredu yn dy galon fod Duw wedi ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, cei dy achub.” 10Oherwydd credu â'r galon sy'n esgor ar gyfiawnder, a chyffesu â'r genau sy'n esgor ar iachawdwriaeth. 11Y mae'r Ysgrythur yn dweud: “Pob un sy'n credu ynddo, ni chywilyddir mohono.” 12Nid oes dim gwahaniaeth rhwng Iddewon a Groegiaid. Yr un Arglwydd sydd i bawb, sy'n rhoi o'i gyfoeth i bawb sy'n galw arno. 13Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur, “bydd pob un sy'n galw ar enw yr Arglwydd yn cael ei achub, pwy bynnag yw.”
14Ond sut y mae pobl i alw ar rywun nad ydynt wedi credu ynddo? Sut y maent i gredu yn rhywun nad ydynt wedi ei glywed? Sut y maent i glywed, heb fod rhywun yn pregethu? 15Sut y maent i bregethu, heb gael eu hanfon? Fel y mae'r Ysgrythur yn dweud: “Mor weddaidd yw traed y rhai sy'n cyhoeddi newyddion da.” 16Eto nid pawb a ufuddhaodd i'r newydd da. Oherwydd y mae Eseia'n dweud, “Arglwydd, pwy a gredodd yr hyn a glywsant gennym?” 17Felly, o'r hyn a glywir y daw ffydd, a daw'r clywed trwy air Crist. 18Ond y mae'n rhaid gofyn, “A oedd dichon iddynt fethu clywed?” Nac oedd, yn wir, oherwydd:
“Aeth eu lleferydd allan i'r holl ddaear,
a'u geiriau hyd eithafoedd byd.”
19Ond i ofyn peth arall, “A oedd dichon i Israel fethu deall?” Ceir yr ateb yn gyntaf gan Moses:
“Fe'ch gwnaf chwi'n eiddigeddus wrth genedl nad yw'n genedl,
a'ch gwneud yn ddig wrth genedl ddiddeall.”
20Ac yna, y mae Eseia'n beiddio dweud:
“Cafwyd fi gan rai nad oeddent yn fy ngheisio;
gwelwyd fi gan rai nad oeddent yn holi amdanaf.”
21Ond am Israel y mae'n dweud: “Ar hyd y dydd bûm yn estyn fy nwylo at bobl anufudd a gwrthnysig.”

Dewis Presennol:

Rhufeiniaid 10: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd