Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 11

11
Gweddill Israel
1Yr wyf yn gofyn, felly, a yw'n bosibl fod Duw wedi gwrthod ei bobl ei hun? Nac ydyw, ddim o gwbl! Oherwydd yr wyf fi yn Israeliad, o linach Abraham, o lwyth Benjamin. 2Nid yw Duw wedi gwrthod ei bobl, y bobl a adnabu cyn eu bod. Gwyddoch beth y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud wrth adrodd hanes Elias yn galw ar Dduw yn erbyn Israel: 3“Arglwydd, y maent wedi lladd dy broffwydi a bwrw d'allorau i lawr; myfi'n unig sydd ar ôl, ac y maent yn ceisio f'einioes innau.” 4Ond yr atebiad dwyfol iddo oedd: “Gadewais i mi fy hun saith mil o bobl sydd heb blygu glin i Baal.” 5Felly hefyd yn yr amser presennol hwn, y mae gweddill ar gael, gweddill sydd wedi ei ethol gan ras Duw. 6Ond os trwy ras y bu hyn, ni all fod yn tarddu o gadw gofynion cyfraith; petai felly, byddai gras yn peidio â bod yn ras. 7Mewn gair, y peth y mae Israel yn ei geisio, nid Israel a'i cafodd, ond y rhai a etholodd Duw; caledwyd y lleill, 8fel y mae'n ysgrifenedig:
“Rhoddodd Duw iddynt ysbryd swrth,
llygaid i beidio â gweld,
a chlustiau i beidio â chlywed,
hyd y dydd heddiw.”
9Ac y mae Dafydd yn dweud:
“Bydded eu bwrdd yn fagl i'w rhwydo,
ac yn groglath i'w cosbi;
10tywyller eu llygaid iddynt beidio â gweld,
a gwna hwy'n wargrwm dros byth.”
Iachawdwriaeth y Cenhedloedd
11Yr wyf yn gofyn, felly, a yw eu llithriad yn gwymp terfynol? Nac ydyw, ddim o gwbl! I'r gwrthwyneb, am iddynt hwy droseddu y mae iachawdwriaeth wedi dod i'r Cenhedloedd, i wneud yr Iddewon yn eiddigeddus. 12Ond os yw eu trosedd yn gyfrwng i gyfoethogi'r byd, a'u diffyg yn gyfrwng i gyfoethogi'r Cenhedloedd, pa faint mwy fydd y cyfoethogi pan ddônt yn eu cyflawn rif#11:12 Neu, pan gyrhaeddant eu cyflawnder??
13Ond i droi atoch chwi y Cenhedloedd. Yr wyf fi'n apostol y Cenhedloedd, ac fel y cyfryw rhoi bri ar fy swydd yr wyf 14wrth geisio gwneud fy mhobl yn eiddigeddus, ac achub rhai ohonynt. 15Oherwydd os bu eu bwrw hwy allan yn gymod i'r byd, bydd eu derbyn i mewn, yn sicr, yn fywyd o blith y meirw. 16Os yw'r tamaid toes a offrymir yn sanctaidd, yna y mae'r toes i gyd yn sanctaidd. Os yw'r gwreiddyn yn sanctaidd, y mae'r canghennau hefyd yn sanctaidd.
17Os torrwyd rhai canghennau i ffwrdd, a'th impio di yn eu plith, er mai olewydden wyllt oeddit, ac os daethost felly i gael rhan o faeth gwreiddyn yr olewydden, 18paid ag ymffrostio ar draul y canghennau a dorrwyd. Os wyt am ymffrostio, cofia nad tydi sy'n cynnal y gwreiddyn, ond y gwreiddyn sy'n dy gynnal di. 19Ond fe ddywedi, “Ie, ond torrwyd y canghennau i ffwrdd er mwyn i mi gael fy impio i mewn.” 20Eithaf gwir; fe'u torrwyd hwy o achos anghrediniaeth, ac fe gefaist ti dy le trwy ffydd. Rho'r gorau i feddyliau mawreddog, a meithrin ofn Duw yn eu lle. 21Oherwydd os nad arbedodd Duw y canghennau naturiol, nid arbeda dithau chwaith. 22Am hynny, ystyria'r modd y mae Duw yn dangos ei diriondeb a'i erwinder: ei erwinder i'r rhai a gwympodd i fai, ond ei diriondeb i ti, cyhyd ag y cedwi dy hun o fewn cylch ei diriondeb. Os na wnei, cei dithau dy dorri allan o'r cyff. 23Ond amdanynt hwy, os na fynnant aros yn eu hanghrediniaeth, cânt eu himpio i mewn i'r cyff, oherwydd y mae Duw yn abl i'w himpio'n ôl. 24Oherwydd, os cefaist ti dy dorri o olewydden oedd yn wyllt wrth natur, a'th impio i mewn, yn groes i natur, i olewydden gardd, gymaint tebycach yw y cânt hwy, sydd wrth natur yn ganghennau olewydden gardd, eu himpio i mewn i'w holewydden hwy eu hunain!
Adfer Israel
25Oherwydd yr wyf am i chwi wybod, gyfeillion, am y dirgelwch hwn (bydd hynny'n eich cadw rhag bod yn ddoeth yn eich tyb eich hunain), fod caledwch rhannol wedi syrthio ar Israel, hyd nes y daw'r Cenhedloedd i mewn yn eu cyflawn rif#11:25 Neu, Cenhedloedd yn eu cyflawnder.. 26Pan ddigwydd hynny, caiff Israel i gyd ei hachub. Fel y mae'n ysgrifenedig:
“Daw'r Gwaredydd o Seion,
a throi pob annuwioldeb oddi wrth Jacob;
27a dyma'r cyfamod a wnaf fi â hwy,
pan gymeraf ymaith eu pechodau.”
28O safbwynt yr Efengyl, gelynion Duw ydynt, ond y mae hynny'n fantais i chwi. O safbwynt eu hethol gan Dduw, y maent yn annwyl ganddo, ond y maent felly o achos yr hynafiaid. 29Oherwydd nid oes tynnu'n ôl ar roddion graslon Duw, a'i alwad ef. 30Buoch chwi unwaith yn anufudd i Dduw, ond yn awr, o ganlyniad i'w hanufudd-dod hwy, yr ydych wedi cael trugaredd. 31Yn yr un modd, o ganlyniad i'r drugaredd a gawsoch chwi, y maent hwy hefyd wedi anufuddhau yn awr, fel mai derbyn trugaredd a wnânt hwythau. 32Y mae Duw wedi cloi pawb yng ngharchar anufudd-dod, er mwyn gwneud pawb yn wrthrychau ei drugaredd.
33O ddyfnder cyfoeth Duw, a'i ddoethineb a'i wybodaeth! Mor anchwiliadwy ei farnedigaethau, mor anolrheiniadwy ei ffyrdd! 34Oherwydd,
“Pwy a adnabu feddwl yr Arglwydd?
Pwy a fu'n ei gynghori ef?
35Pwy a achubodd y blaen arno â rhodd,
i gael rhodd yn ôl ganddo?”
36Oherwydd ohono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef y mae pob peth. Iddo ef y bo'r gogoniant am byth! Amen.

Dewis Presennol:

Rhufeiniaid 11: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd