Salm 70:1-5
Salm 70:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O Dduw, achub fi! O ARGLWYDD, brysia i’m helpu! Gwna i’r rhai sydd am fy lladd i deimlo embaras a chywilydd. Gwna i’r rhai sydd am wneud niwed i mi droi yn ôl mewn cywilydd. Gwna i’r rhai sy’n chwerthin ar fy mhen droi yn ôl mewn cywilydd. Ond gwna i bawb sy’n dy geisio di ddathlu’n llawen! Gwna i’r rhai sy’n mwynhau dy weld ti’n achub ddweud, “Mae Duw mor fawr!” Dw i mewn angen ac yn ddiamddiffyn; O Dduw, brysia ata i! Ti ydy’r un sy’n gallu fy helpu a’m hachub. O ARGLWYDD, paid oedi!
Salm 70:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bydd fodlon i'm gwaredu, O Dduw; O ARGLWYDD, brysia i'm cynorthwyo. Doed cywilydd, a gwaradwydd hefyd, ar y rhai sy'n ceisio fy mywyd; bydded i'r rhai sy'n cael pleser o wneud drwg imi gael eu troi yn eu holau mewn dryswch. Bydded i'r rhai sy'n gweiddi, “Aha! Aha!” arnaf droi yn eu holau o achos eu gwaradwydd. Ond bydded i bawb sy'n dy geisio di lawenhau a gorfoleddu ynot; bydded i'r rhai sy'n caru dy iachawdwriaeth ddweud yn wastad, “Mawr yw Duw.” Un tlawd ac anghenus wyf fi; O Dduw, brysia ataf. Ti yw fy nghymorth a'm gwaredydd; O ARGLWYDD, paid ag oedi.
Salm 70:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O DDUW, prysura i’m gwaredu; brysia, ARGLWYDD, i’m cymorth. Cywilyddier a gwarthrudder y rhai a geisiant fy enaid: troer yn eu hôl a gwaradwydder y rhai a ewyllysiant ddrwg i mi. Datroer yn lle gwobr am eu cywilydd, y rhai a ddywedant, Ha, ha. Llawenyched, a gorfoledded ynot ti y rhai oll a’th geisiant; a dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth yn wastad, Mawryger DUW. Minnau ydwyf dlawd ac anghenus; O DDUW, brysia ataf: fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt ti, O ARGLWYDD; na hir drig.