Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 70

70
I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd, er coffadwriaeth.
1Bydd fodlon#70:1 Hebraeg heb Bydd fodlon. Cymh. 40:13. i'm gwaredu, O Dduw;
O ARGLWYDD, brysia i'm cynorthwyo.
2Doed cywilydd, a gwaradwydd hefyd,
ar y rhai sy'n ceisio fy mywyd;
bydded i'r rhai sy'n cael pleser o wneud drwg imi
gael eu troi yn eu holau mewn dryswch.
3Bydded i'r rhai sy'n gweiddi, “Aha! Aha!” arnaf#70:3 Hebraeg heb arnaf. Cymh. 40:15.
droi yn eu holau o achos eu gwaradwydd.
4Ond bydded i bawb sy'n dy geisio di
lawenhau a gorfoleddu ynot;
bydded i'r rhai sy'n caru dy iachawdwriaeth
ddweud yn wastad, “Mawr yw Duw.”
5Un tlawd ac anghenus wyf fi;
O Dduw, brysia ataf.
Ti yw fy nghymorth a'm gwaredydd;
O ARGLWYDD, paid ag oedi.

Dewis Presennol:

Y Salmau 70: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd