Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 71

71
1Ynot ti, ARGLWYDD, y ceisiais loches;
na fydded cywilydd arnaf byth.
2Yn dy gyfiawnder gwared ac achub fi,
tro dy glust ataf ac arbed fi.
3Bydd yn graig noddfa#71:3 Felly rhai llawysgrifau a Fersiynau. Cymh. 31:2. TM, yn drigfa. i mi,
yn amddiffynfa#71:3 Felly Groeg. Cymh. 31:2. Hebraeg, i mi dodd yn wastad gorchmynnaist. i'm cadw,
oherwydd ti yw fy nghraig a'm hamddiffynfa.
4O fy Nuw, gwared fi o law'r drygionus,
o afael yr anghyfiawn a'r creulon.
5Oherwydd ti, Arglwydd, yw fy ngobaith,
fy ymddiriedaeth o'm hieuenctid, O ARGLWYDD.
6Arnat ti y bûm yn pwyso o'm genedigaeth;
ti a'm tynnodd allan o groth fy mam.
Amdanat ti y bydd fy mawl yn wastad.
7Bûm fel pe'n rhybudd i lawer;
ond ti yw fy noddfa gadarn.
8Y mae fy ngenau'n llawn o'th foliant
ac o'th ogoniant bob amser.
9Paid â'm bwrw ymaith yn amser henaint;
paid â'm gadael pan fydd fy nerth yn pallu.
10Oherwydd y mae fy ngelynion yn siarad amdanaf,
a'r rhai sy'n gwylio am fy einioes yn trafod gyda'i gilydd,
11ac yn dweud, “Y mae Duw wedi ei adael;
ewch ar ei ôl a'i ddal, oherwydd nid oes gwaredydd.”
12O Dduw, paid â phellhau oddi wrthyf;
O fy Nuw, brysia i'm cynorthwyo.
13Doed cywilydd a gwarth ar fy ngwrthwynebwyr,#71:13 Felly llawysgrifau a Syrieg. TM, cywilydd ar fy ngwrthwynebwyr, diflannant.
a gwaradwydd#71:13 Felly Syrieg. Hebraeg, gwaradwydd a gwarth. yn orchudd dros y rhai sy'n ceisio fy nrygu.
14Ond byddaf fi'n disgwyl yn wastad,
ac yn dy foli'n fwy ac yn fwy.
15Bydd fy ngenau'n mynegi dy gyfiawnder
a'th weithredoedd achubol trwy'r amser,
oherwydd ni wn eu nifer.
16Dechreuaf gyda'r gweithredoedd grymus, O Arglwydd DDUW;
soniaf am dy gyfiawnder di yn unig.
17O Dduw, dysgaist fi o'm hieuenctid,
ac yr wyf yn dal i gyhoeddi dy ryfeddodau;
18a hyd yn oed pan wyf yn hen a phenwyn,
O Dduw, paid â'm gadael,
nes imi fynegi dy rym
i'r cenedlaethau sy'n codi.
19Y mae dy gryfder#71:19 Hebraeg, dy gryfder yn yr adn. flaenorol. a'th gyfiawnder, O Dduw,
yn cyrraedd i'r uchelder,
oherwydd iti wneud pethau mawr.
O Dduw, pwy sydd fel tydi?
20Ti, a wnaeth imi weld cyfyngderau mawr a chwerw,
fydd yn fy adfywio drachefn;
ac o ddyfnderau'r ddaear
fe'm dygi i fyny unwaith eto.
21Byddi'n ychwanegu at fy anrhydedd,
ac yn troi i'm cysuro.
22Byddaf finnau'n dy foliannu â'r nabl
am dy ffyddlondeb, O fy Nuw;
byddaf yn canu i ti â'r delyn,
O Sanct Israel.
23Bydd fy ngwefusau'n gweiddi'n llawen—
oherwydd canaf i ti—
a hefyd yr enaid a waredaist.
24Bydd fy nhafod beunydd
yn sôn am dy gyfiawnder;
oherwydd daeth cywilydd a gwaradwydd
ar y rhai a fu'n ceisio fy nrygu.

Dewis Presennol:

Y Salmau 71: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd