Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 69

69
I'r Cyfarwyddwr: ar Lilïau. I Ddafydd.
1Gwareda fi, O Dduw,
oherwydd cododd y dyfroedd at fy ngwddf.
2Yr wyf yn suddo mewn llaid dwfn,
a heb le i sefyll arno;
yr wyf wedi mynd i ddyfroedd dyfnion,
ac y mae'r llifogydd yn fy sgubo ymaith.
3Yr wyf wedi diffygio'n gweiddi, a'm gwddw'n sych;
y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am fy Nuw.
4Mwy niferus na gwallt fy mhen
yw'r rhai sy'n fy nghasáu heb achos;
lluosocach na'm hesgyrn#69:4 Felly Syrieg. Hebraeg, cryf yw'r rhai sy'n fy nistrywio.
yw fy ngelynion twyllodrus.
Sut y dychwelaf yr hyn nas cymerais?
5O Dduw, gwyddost ti fy ffolineb,
ac nid yw fy nhroseddau'n guddiedig oddi wrthyt.
6Na fydded i'r rhai sy'n gobeithio ynot gael eu cywilyddio o'm plegid,
O Arglwydd DDUW y Lluoedd,
nac i'r rhai sy'n dy geisio gael eu gwaradwyddo o'm hachos,
O Dduw Israel.
7Oherwydd er dy fwyn di y dygais warth,
ac y mae fy wyneb wedi ei orchuddio â chywilydd.
8Euthum yn ddieithryn i'm brodyr,
ac yn estron i blant fy mam.
9Y mae sêl dy dŷ di wedi fy ysu,
a daeth gwaradwydd y rhai sy'n dy waradwyddo di arnaf finnau.
10Pan wylaf wrth ymprydio,
fe'i hystyrir yn waradwydd i mi;
11pan wisgaf sachliain amdanaf,
fe'm gwneir yn ddihareb iddynt.
12Y mae'r rhai sy'n eistedd wrth y porth yn siarad amdanaf,
ac yr wyf yn destun i watwar y meddwon.
13Ond daw fy ngweddi i atat, O ARGLWYDD.
Ar yr amser priodol, O Dduw,
ateb fi yn dy gariad mawr
gyda'th waredigaeth sicr.
14Gwared fi o'r llaid rhag imi suddo,
achuber fi o'r mwd#69:14 Tebygol. Hebraeg, fi rhag y rhai sy'n fy nghasáu. ac o'r dyfroedd dyfnion.
15Na fydded i'r llifogydd fy sgubo ymaith,
na'r dyfnder fy llyncu,
na'r pwll gau ei safn amdanaf.
16Ateb fi, ARGLWYDD, oherwydd da yw dy gariad;
yn dy drugaredd mawr, tro ataf.
17Paid â chuddio dy wyneb oddi wrth dy was;
y mae'n gyfyng arnaf, brysia i'm hateb.
18Tyrd yn nes ataf i'm gwaredu;
rhyddha fi o achos fy ngelynion.
19Fe wyddost ti fy ngwaradwydd,
fy ngwarth a'm cywilydd;
yr wyt yn gyfarwydd â'm holl elynion.
20Y mae gwarth wedi torri fy nghalon,
ac yr wyf mewn anobaith;
disgwyliais am dosturi, ond heb ei gael,
ac am rai i'm cysuro, ond nis cefais.
21Rhoesant wenwyn yn fy mwyd,
a gwneud imi yfed finegr at fy syched.
22Bydded eu bwrdd eu hunain yn rhwyd iddynt,
yn fagl i'w cyfeillion.
23Tywyller eu llygaid rhag iddynt weld,
a gwna i'w cluniau grynu'n barhaus.
24Tywallt dy ddicter arnynt,
a doed dy lid mawr ar eu gwarthaf.
25Bydded eu gwersyll yn anghyfannedd,
heb neb yn byw yn eu pebyll,
26oherwydd erlidiant yr un a drewaist ti,
a lluosogant friwiau'r rhai a archollaist.
27Rho iddynt gosb ar ben cosb;
na chyfiawnhaer hwy gennyt ti.
28Dileer hwy o lyfr y rhai byw,
ac na restrer hwy gyda'r cyfiawn.
29Yr wyf fi mewn gofid a phoen;
trwy dy waredigaeth, O Dduw, cod fi i fyny.
30Moliannaf enw Duw ar gân,
mawrygaf ef â diolchgarwch.
31Bydd hyn yn well gan yr ARGLWYDD nag ych,
neu fustach ifanc â chyrn a charnau.
32Bydded i'r darostyngedig weld hyn a llawenhau;
chwi sy'n ceisio Duw, bydded i'ch calonnau adfywio;
33oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn gwrando'r anghenus,
ac nid yw'n diystyru ei eiddo sy'n gaethion.
34Bydded i'r nefoedd a'r ddaear ei foliannu,
y môr hefyd a phopeth byw sydd ynddo.
35Oherwydd bydd Duw yn gwaredu Seion,
ac yn ailadeiladu dinasoedd Jwda;
byddant yn byw yno ac yn ei meddiannu,
36bydd plant ei weision yn ei hetifeddu,
a'r rhai sy'n caru ei enw'n byw yno.

Dewis Presennol:

Y Salmau 69: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd