Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 70

70
SALM 70
I’r Pencerdd, Salm Dafydd i goffa.
1O Dduw, prysura i’m gwaredu; brysia, Arglwydd, i’m cymorth.
2Cywilyddier a gwarthrudder y rhai a geisiant fy enaid: troer yn eu hôl a gwaradwydder y rhai a ewyllysiant ddrwg i mi.
3Datroer yn lle gwobr am eu cywilydd, y rhai a ddywedant, Ha, ha.
4Llawenyched, a gorfoledded ynot ti y rhai oll a’th geisiant; a dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth yn wastad, Mawryger Duw.
5Minnau ydwyf dlawd ac anghenus; O Dduw, brysia ataf: fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt ti, O Arglwydd; na hir drig.

Dewis Presennol:

Y Salmau 70: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda