Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 69

69
SALM 69
I’r Pencerdd ar Sosannim, Salm Dafydd.
1Achub fi, O Dduw, canys y dyfroedd a ddaethant i mewn hyd at fy enaid.
2Soddais mewn tom dwfn, lle nid oes sefyllfa: deuthum i ddyfnder dyfroedd, a’r ffrwd a lifodd drosof.
3Blinais yn llefain, sychodd fy ngheg: pallodd fy llygaid, tra yr ydwyf yn disgwyl wrth fy Nuw.
4Amlach na gwallt fy mhen yw y rhai a’m casânt heb achos: cedyrn yw fy ngelynion diachos, y rhai a’m difethent: yna y telais yr hyn ni chymerais.
5O Dduw, ti a adwaenost fy ynfydrwydd; ac nid yw fy nghamweddau guddiedig rhagot.
6Na chywilyddier o’m plegid i y rhai a obeithiant ynot ti, Arglwydd Dduw y lluoedd: na waradwydder o’m plegid i y rhai a’th geisiant di, O Dduw Israel.
7Canys er dy fwyn di y dygais warthrudd, ac y todd cywilydd fy wyneb.
8Euthum yn ddieithr i’m brodyr, ac fel estron gan blant fy mam.
9Canys sêl dy dŷ a’m hysodd; a gwaradwyddiad y rhai a’th waradwyddent di, a syrthiodd arnaf fi.
10Pan wylais, gan gystuddio fy enaid ag ympryd, bu hynny yn waradwydd i mi.
11Gwisgais hefyd sachliain; ac euthum yn ddihareb iddynt.
12Yn fy erbyn y chwedleuai y rhai a eisteddent yn y porth; ac i’r meddwon yr oeddwn yn wawd.
13Ond myfi, fy ngweddi sydd atat ti, O Arglwydd, mewn amser cymeradwy: O Dduw, yn lluosowgrwydd dy drugaredd gwrando fi, yng ngwirionedd dy iachawdwriaeth.
14Gwared fi o’r dom, ac na soddwyf: gwareder fi oddi wrth fy nghaseion, ac o’r dyfroedd dyfnion.
15Na lifed y ffrwd ddwfr drosof, ac na lynced y dyfnder fi; na chaeed y pydew chwaith ei safn arnaf.
16Clyw fi, Arglwydd; canys da yw dy drugaredd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau edrych arnaf.
17Ac na chuddia dy wyneb oddi wrth dy was; canys y mae cyfyngder arnaf: brysia, gwrando fi.
18Nesâ at fy enaid, a gwared ef: achub fi oherwydd fy ngelynion.
19Ti a adwaenost fy ngwarthrudd, a’m cywilydd, a’m gwaradwydd: fy holl elynion ydynt ger dy fron di.
20Gwarthrudd a dorrodd fy nghalon; yr ydwyf mewn gofid: a disgwyliais am rai i dosturio wrthyf, ac nid oedd neb; ac am gysurwyr, ac ni chefais neb.
21Rhoddasant hefyd fustl yn fy mwyd, ac a’m diodasant yn fy syched â finegr.
22Bydded eu bwrdd yn fagl ger eu bron, a’u llwyddiant yn dramgwydd.
23Tywyller eu llygaid, fel na welont; a gwna i’w llwynau grynu bob amser.
24Tywallt dy ddig arnynt; a chyrhaedded llidiowgrwydd dy ddigofaint hwynt.
25Bydded eu preswylfod yn anghyfannedd; ac na fydded a drigo yn eu pebyll.
26Canys erlidiasant yr hwn a drawsit ti; ac am ofid y rhai a archollaist ti, y chwedleuant.
27Dod ti anwiredd at eu hanwiredd hwynt; ac na ddelont i’th gyfiawnder di.
28Dileer hwynt o lyfr y rhai byw; ac na ysgrifenner hwynt gyda’r rhai cyfiawn.
29Minnau, truan a gofidus ydwyf: dy iachawdwriaeth di, O Dduw, a’m dyrchafo.
30Moliannaf enw Duw ar gân, a mawrygaf ef mewn mawl.
31A hyn fydd well gan yr Arglwydd nag ych neu fustach corniog, carnol.
32Y trueiniaid a lawenychant pan welant hyn: eich calon chwithau, y rhai a geisiwch Dduw, a fydd byw.
33Canys gwrendy yr Arglwydd ar dlodion, ac ni ddiystyra efe ei garcharorion.
34Nefoedd a daear, y môr a’r hyn oll a ymlusgo ynddo, molant ef.
35Canys Duw a achub Seion, ac a adeilada ddinasoedd Jwda; fel y trigont yno, ac y meddiannont hi.
36A hiliogaeth ei weision a’i meddiannant hi: a’r rhai a hoffant ei enw ef, a breswyliant ynddi.

Dewis Presennol:

Y Salmau 69: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda