O DDUW, prysura i’m gwaredu; brysia, ARGLWYDD, i’m cymorth. Cywilyddier a gwarthrudder y rhai a geisiant fy enaid: troer yn eu hôl a gwaradwydder y rhai a ewyllysiant ddrwg i mi. Datroer yn lle gwobr am eu cywilydd, y rhai a ddywedant, Ha, ha. Llawenyched, a gorfoledded ynot ti y rhai oll a’th geisiant; a dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth yn wastad, Mawryger DUW. Minnau ydwyf dlawd ac anghenus; O DDUW, brysia ataf: fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt ti, O ARGLWYDD; na hir drig.
Darllen Y Salmau 70
Gwranda ar Y Salmau 70
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 70:1-5
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos