Diarhebion 24:1-22
Diarhebion 24:1-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Paid â chenfigennu wrth bobl ddrwg, na dymuno bod yn eu cwmni; oherwydd y maent hwy'n meddwl am drais, a'u genau'n sôn am drybini. Fe adeiledir tŷ trwy ddoethineb, a'i sicrhau trwy wybodaeth. Trwy ddeall y llenwir ystafelloedd â phob eiddo gwerthfawr a dymunol. Y mae'r doeth yn fwy grymus na'r cryf, a'r un deallus na'r un nerthol; oherwydd gelli drefnu dy frwydr â medrusrwydd, a chael buddugoliaeth â llawer o gynghorwyr. Y mae doethineb allan o gyrraedd y ffŵl; nid yw'n agor ei geg yn y porth. Bydd yr un sy'n cynllunio i wneud drwg yn cael ei alw yn ddichellgar. Y mae dichell y ffŵl yn bechod, ac y mae pobl yn ffieiddio'r gwatwarwr. Os torri dy galon yn nydd cyfyngder, yna y mae dy nerth yn wan. Achub y rhai a ddygir i farwolaeth; rho gymorth i'r rhai a lusgir i'w lladd. Os dywedi, “Ni wyddem ni am hyn”, onid yw'r un sy'n pwyso'r galon yn deall? Y mae'r un sy'n dy wylio yn gwybod, ac yn talu i bob un yn ôl ei waith. Fy mab, bwyta fêl, oherwydd y mae'n dda, ac y mae diliau mêl yn felys i'th enau. Felly y mae deall a doethineb i'th fywyd; os cei hwy, yna y mae iti ddyfodol, ac ni thorrir ymaith dy obaith. Paid â llechu fel drwgweithredwr wrth drigfan y cyfiawn, a phaid ag ymosod ar ei gartref. Er i'r cyfiawn syrthio seithwaith, eto fe gyfyd; ond fe feglir y drygionus gan adfyd. Paid â llawenhau pan syrth dy elyn, nac ymfalchïo pan feglir ef, rhag i'r ARGLWYDD weld, a bod yn anfodlon, a throi ei ddig oddi wrtho. Na fydd ddig wrth y rhai drygionus, na chenfigennu wrth y rhai sy'n gwneud drwg. Oherwydd nid oes dyfodol i neb drwg, a diffoddir goleuni'r drygionus. Fy mab, ofna'r ARGLWYDD a'r brenin; paid â bod yn anufudd iddynt, oherwydd fe ddaw dinistr sydyn oddi wrthynt, a phwy a ŵyr y distryw a achosant ill dau?
Diarhebion 24:1-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Paid cenfigennu wrth bobl ddrwg, na bod eisiau cadw cwmni iddyn nhw. Dŷn nhw’n meddwl am ddim byd ond trais a sut i wneud drwg i bobl eraill. Mae’n cymryd gallu i adeiladu tŷ, a deall i osod seiliau cadarn iddo. Mae angen gwybodaeth i lenwi’r ystafelloedd gyda phob math o bethau gwerthfawr a hardd. Mae person doeth yn gryf, a pherson deallus yn ddylanwadol. Mae angen strategaeth i ymladd brwydr, a digon o gyngor doeth i ennill buddugoliaeth. Mae doethineb allan o gyrraedd y ffŵl; does ganddo ddim i’w ddweud pan mae’r arweinwyr yn cyfarfod. Mae’r sawl sy’n cynllunio i wneud drwg yn cael yr enw o fod yn gyfrwys. Mae castiau’r ffŵl yn bechod, ac mae’n gas gan bobl berson sy’n gwawdio. Os wyt ti’n un i golli hyder dan bwysau, mae gen ti angen mwy o nerth. Achub y rhai sy’n cael eu llusgo i ffwrdd i’w lladd! Bydd barod i helpu’r rhai sy’n baglu i’r bedd. Os byddi di’n dweud, “Ond doedden ni’n gwybod dim am y peth,” cofia fod yr Un sy’n pwyso’r galon yn gweld y gwir! Mae Duw yn dy wylio di, ac mae e’n gwybod; a bydd pawb yn cael beth maen nhw’n ei haeddu. Fy mab, bwyta fêl – mae’n dda i ti – ac mae diliau mêl yn felys yn dy geg. A’r un modd mae doethineb yn dda i ti. Os wyt ti’n ddoeth, byddi’n iawn yn y diwedd, a bydd gen ti obaith fydd byth yn dy siomi. Paid llechu fel lleidr tu allan i gartref dyn da, a phaid torri i mewn i’w dŷ. Gelli faglu pobl dda dro ar ôl tro, ond byddan nhw’n codi ar eu traed; tra mae un anffawd yn ddigon i fwrw pobl ddrwg i lawr. Paid dathlu pan mae dy elyn yn syrthio; paid bod yn falch os ydy e’n cael ei fwrw i lawr, rhag i’r ARGLWYDD weld y peth, a bod yn flin hefo ti; wedyn bydd e’n arbed y gelyn rhag y gosb. Paid digio pan mae pobl ddrwg yn llwyddo; paid bod yn genfigennus ohonyn nhw – does dim dyfodol iddyn nhw. Mae’r person drwg fel lamp sy’n diffodd. Fy mab, dylet ti barchu’r ARGLWYDD a’r brenin, a pheidio cadw cwmni’r rhai sy’n gwrthryfela. Yn sydyn bydd dinistr yn dod arnyn nhw; pwy ŵyr faint o ddrwg allan nhw ei achosi?
Diarhebion 24:1-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Paid â chenfigennu wrth bobl ddrwg, na dymuno bod yn eu cwmni; oherwydd y maent hwy'n meddwl am drais, a'u genau'n sôn am drybini. Fe adeiledir tŷ trwy ddoethineb, a'i sicrhau trwy wybodaeth. Trwy ddeall y llenwir ystafelloedd â phob eiddo gwerthfawr a dymunol. Y mae'r doeth yn fwy grymus na'r cryf, a'r un deallus na'r un nerthol; oherwydd gelli drefnu dy frwydr â medrusrwydd, a chael buddugoliaeth â llawer o gynghorwyr. Y mae doethineb allan o gyrraedd y ffŵl; nid yw'n agor ei geg yn y porth. Bydd yr un sy'n cynllunio i wneud drwg yn cael ei alw yn ddichellgar. Y mae dichell y ffŵl yn bechod, ac y mae pobl yn ffieiddio'r gwatwarwr. Os torri dy galon yn nydd cyfyngder, yna y mae dy nerth yn wan. Achub y rhai a ddygir i farwolaeth; rho gymorth i'r rhai a lusgir i'w lladd. Os dywedi, “Ni wyddem ni am hyn”, onid yw'r un sy'n pwyso'r galon yn deall? Y mae'r un sy'n dy wylio yn gwybod, ac yn talu i bob un yn ôl ei waith. Fy mab, bwyta fêl, oherwydd y mae'n dda, ac y mae diliau mêl yn felys i'th enau. Felly y mae deall a doethineb i'th fywyd; os cei hwy, yna y mae iti ddyfodol, ac ni thorrir ymaith dy obaith. Paid â llechu fel drwgweithredwr wrth drigfan y cyfiawn, a phaid ag ymosod ar ei gartref. Er i'r cyfiawn syrthio seithwaith, eto fe gyfyd; ond fe feglir y drygionus gan adfyd. Paid â llawenhau pan syrth dy elyn, nac ymfalchïo pan feglir ef, rhag i'r ARGLWYDD weld, a bod yn anfodlon, a throi ei ddig oddi wrtho. Na fydd ddig wrth y rhai drygionus, na chenfigennu wrth y rhai sy'n gwneud drwg. Oherwydd nid oes dyfodol i neb drwg, a diffoddir goleuni'r drygionus. Fy mab, ofna'r ARGLWYDD a'r brenin; paid â bod yn anufudd iddynt, oherwydd fe ddaw dinistr sydyn oddi wrthynt, a phwy a ŵyr y distryw a achosant ill dau?
Diarhebion 24:1-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Na chenfigenna wrth wŷr annuwiol; ac na chwennych fod gyda hwynt: Canys eu calon a fyfyria anrhaith, a’u gwefusau a draetha flinder. Trwy ddoethineb yr adeiledir tŷ, a thrwy ddeall y sicrheir ef: A thrwy wybodaeth y llenwir y celloedd o bob golud gwerthfawr a hyfryd. Gŵr doeth sydd nerthol; a gŵr pwyllog a chwanega ei nerth. Canys trwy gyngor doeth y gwnei dy ryfel: a thrwy lawer o gynghorwyr y bydd diogelwch. Rhy uchel yw doethineb i ffôl; ni egyr efe ei enau yn y porth. Y neb a fwriada ddrygau, a elwir yn ysgeler. Bwriad y ffôl sydd bechod; a ffiaidd gan ddynion y gwatwarus. Os llwfrhei mewn amser cyfyngder, bychan yw dy nerth. Gwared y rhai a lusgir i angau: a ymadawit â’r neb sydd barod i’w lladd? Os dywedi, Wele, ni wyddom ni hyn: onid yw pwyswr y calonnau yn deall? a’r hwn sydd yn cadw dy enaid, oni ŵyr efe? ac oni thâl efe i bob un yn ôl ei weithred? Fy mab, bwyta fêl, canys da yw; a’r dil mêl, canys melys yw i’th enau. Felly y bydd gwybodaeth doethineb i’th enaid: os cei di hi, yn ddiau fe fydd gwobr, a’th obaith ni phalla. Na chynllwyn di, O annuwiol, wrth drigfa y cyfiawn; na anrheithia ei orffwysfa ef. Canys seithwaith y syrth y cyfiawn, ac efe a gyfyd drachefn: ond yr annuwiolion a syrthiant mewn drygioni. Pan syrthio dy elyn, na lawenycha: a phan dramgwyddo, na orfoledded dy galon: Rhag i’r ARGLWYDD weled, a bod hynny yn ddrwg yn ei olwg ef, ac iddo droi ei ddig oddi wrtho ef atat ti. Nac ymddigia oherwydd y drwgweithredwyr; na chenfigenna wrth yr annuwiolion: Canys ni bydd gwobr i’r drygionus: cannwyll yr annuwiolion a ddiffoddir. Fy mab, ofna yr ARGLWYDD a’r brenin, ac nac ymyrr â’r rhai anwastad: Canys yn ddisymwth y cyfyd eu distryw hwy: a phwy a ŵyr eu dinistr hwy ill dau?