Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 24:1-22

Diarhebion 24:1-22 BWM

Na chenfigenna wrth wŷr annuwiol; ac na chwennych fod gyda hwynt: Canys eu calon a fyfyria anrhaith, a’u gwefusau a draetha flinder. Trwy ddoethineb yr adeiledir tŷ, a thrwy ddeall y sicrheir ef: A thrwy wybodaeth y llenwir y celloedd o bob golud gwerthfawr a hyfryd. Gŵr doeth sydd nerthol; a gŵr pwyllog a chwanega ei nerth. Canys trwy gyngor doeth y gwnei dy ryfel: a thrwy lawer o gynghorwyr y bydd diogelwch. Rhy uchel yw doethineb i ffôl; ni egyr efe ei enau yn y porth. Y neb a fwriada ddrygau, a elwir yn ysgeler. Bwriad y ffôl sydd bechod; a ffiaidd gan ddynion y gwatwarus. Os llwfrhei mewn amser cyfyngder, bychan yw dy nerth. Gwared y rhai a lusgir i angau: a ymadawit â’r neb sydd barod i’w lladd? Os dywedi, Wele, ni wyddom ni hyn: onid yw pwyswr y calonnau yn deall? a’r hwn sydd yn cadw dy enaid, oni ŵyr efe? ac oni thâl efe i bob un yn ôl ei weithred? Fy mab, bwyta fêl, canys da yw; a’r dil mêl, canys melys yw i’th enau. Felly y bydd gwybodaeth doethineb i’th enaid: os cei di hi, yn ddiau fe fydd gwobr, a’th obaith ni phalla. Na chynllwyn di, O annuwiol, wrth drigfa y cyfiawn; na anrheithia ei orffwysfa ef. Canys seithwaith y syrth y cyfiawn, ac efe a gyfyd drachefn: ond yr annuwiolion a syrthiant mewn drygioni. Pan syrthio dy elyn, na lawenycha: a phan dramgwyddo, na orfoledded dy galon: Rhag i’r ARGLWYDD weled, a bod hynny yn ddrwg yn ei olwg ef, ac iddo droi ei ddig oddi wrtho ef atat ti. Nac ymddigia oherwydd y drwgweithredwyr; na chenfigenna wrth yr annuwiolion: Canys ni bydd gwobr i’r drygionus: cannwyll yr annuwiolion a ddiffoddir. Fy mab, ofna yr ARGLWYDD a’r brenin, ac nac ymyrr â’r rhai anwastad: Canys yn ddisymwth y cyfyd eu distryw hwy: a phwy a ŵyr eu dinistr hwy ill dau?