Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 24

24
1Paid â chenfigennu wrth bobl ddrwg,
na dymuno bod yn eu cwmni;
2oherwydd y maent hwy'n meddwl am drais,
a'u genau'n sôn am drybini.
3Fe adeiledir tŷ trwy ddoethineb,
a'i sicrhau trwy wybodaeth.
4Trwy ddeall y llenwir ystafelloedd
â phob eiddo gwerthfawr a dymunol.
5Y mae'r doeth yn fwy grymus na'r cryf,
a'r un deallus na'r un nerthol;
6oherwydd gelli drefnu dy frwydr â medrusrwydd,
a chael buddugoliaeth â llawer o gynghorwyr.
7Y mae doethineb allan o gyrraedd y ffŵl;
nid yw'n agor ei geg yn y porth.
8Bydd yr un sy'n cynllunio i wneud drwg
yn cael ei alw yn ddichellgar.
9Y mae dichell y ffŵl yn bechod,
ac y mae pobl yn ffieiddio'r gwatwarwr.
10Os torri dy galon yn nydd cyfyngder,
yna y mae dy nerth yn wan.
11Achub y rhai a ddygir i farwolaeth;
rho gymorth i'r rhai a lusgir i'w lladd.
12Os dywedi, “Ni wyddem ni am hyn”,
onid yw'r un sy'n pwyso'r galon yn deall?
Y mae'r un sy'n dy wylio yn gwybod,
ac yn talu i bob un yn ôl ei waith.
13Fy mab, bwyta fêl, oherwydd y mae'n dda,
ac y mae diliau mêl yn felys i'th enau.
14Felly y mae deall a doethineb i'th fywyd;
os cei hwy, yna y mae iti ddyfodol,
ac ni thorrir ymaith dy obaith.
15Paid â llechu fel drwgweithredwr wrth drigfan y cyfiawn,
a phaid ag ymosod ar ei gartref.
16Er i'r cyfiawn syrthio seithwaith, eto fe gyfyd;
ond fe feglir y drygionus gan adfyd.
17Paid â llawenhau pan syrth dy elyn,
nac ymfalchïo pan feglir ef,
18rhag i'r ARGLWYDD weld, a bod yn anfodlon,
a throi ei ddig oddi wrtho.
19Na fydd ddig wrth y rhai drygionus,
na chenfigennu wrth y rhai sy'n gwneud drwg.
20Oherwydd nid oes dyfodol i neb drwg,
a diffoddir goleuni'r drygionus.
21Fy mab, ofna'r ARGLWYDD a'r brenin;
paid â bod yn anufudd iddynt,#24:21 Felly Groeg. Hebraeg, paid ag ymgyfeillachu â rhai sy'n newid.
22oherwydd fe ddaw dinistr sydyn oddi wrthynt,
a phwy a ŵyr y distryw a achosant ill dau?
Rhagor o Eiriau'r Doethion
23Dyma hefyd eiriau'r doethion:
Nid yw'n iawn dangos ffafr mewn barn.
24Pwy bynnag a ddywed wrth yr euog, “Yr wyt yn ddieuog”,
fe'i melltithir gan bobloedd a'i gollfarnu gan genhedloedd.
25Ond caiff y rhai sy'n eu ceryddu foddhad,
a daw gwir fendith arnynt.
26Y mae rhoi ateb gonest
fel rhoi cusan ar wefusau.
27Rho drefn ar dy waith y tu allan,
a threfna'r hyn sydd yn dy gae,
ac yna adeilada dy dŷ.
28Paid â thystio yn erbyn dy gymydog yn ddiachos,
na thwyllo â'th eiriau.
29Paid â dweud, “Gwnaf iddo fel y gwnaeth ef i mi;
talaf iddo yn ôl ei weithred.”
30Euthum heibio i faes un diog,
ac i winllan un disynnwyr,
31a sylwais eu bod yn llawn drain,
a danadl drostynt i gyd,
a'u mur o gerrig wedi ei chwalu.
32Edrychais arnynt ac ystyried;
sylwais a dysgu gwers:
33ychydig gwsg, ychydig hepian,
ychydig blethu dwylo i orffwys,
34a daw tlodi atat fel dieithryn creulon,
ac angen fel gŵr arfog.

Dewis Presennol:

Diarhebion 24: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda