Paid cenfigennu wrth bobl ddrwg, na bod eisiau cadw cwmni iddyn nhw. Dŷn nhw’n meddwl am ddim byd ond trais a sut i wneud drwg i bobl eraill. Mae’n cymryd gallu i adeiladu tŷ, a deall i osod seiliau cadarn iddo. Mae angen gwybodaeth i lenwi’r ystafelloedd gyda phob math o bethau gwerthfawr a hardd. Mae person doeth yn gryf, a pherson deallus yn ddylanwadol. Mae angen strategaeth i ymladd brwydr, a digon o gyngor doeth i ennill buddugoliaeth. Mae doethineb allan o gyrraedd y ffŵl; does ganddo ddim i’w ddweud pan mae’r arweinwyr yn cyfarfod. Mae’r sawl sy’n cynllunio i wneud drwg yn cael yr enw o fod yn gyfrwys. Mae castiau’r ffŵl yn bechod, ac mae’n gas gan bobl berson sy’n gwawdio. Os wyt ti’n un i golli hyder dan bwysau, mae gen ti angen mwy o nerth. Achub y rhai sy’n cael eu llusgo i ffwrdd i’w lladd! Bydd barod i helpu’r rhai sy’n baglu i’r bedd. Os byddi di’n dweud, “Ond doedden ni’n gwybod dim am y peth,” cofia fod yr Un sy’n pwyso’r galon yn gweld y gwir! Mae Duw yn dy wylio di, ac mae e’n gwybod; a bydd pawb yn cael beth maen nhw’n ei haeddu. Fy mab, bwyta fêl – mae’n dda i ti – ac mae diliau mêl yn felys yn dy geg. A’r un modd mae doethineb yn dda i ti. Os wyt ti’n ddoeth, byddi’n iawn yn y diwedd, a bydd gen ti obaith fydd byth yn dy siomi. Paid llechu fel lleidr tu allan i gartref dyn da, a phaid torri i mewn i’w dŷ. Gelli faglu pobl dda dro ar ôl tro, ond byddan nhw’n codi ar eu traed; tra mae un anffawd yn ddigon i fwrw pobl ddrwg i lawr. Paid dathlu pan mae dy elyn yn syrthio; paid bod yn falch os ydy e’n cael ei fwrw i lawr, rhag i’r ARGLWYDD weld y peth, a bod yn flin hefo ti; wedyn bydd e’n arbed y gelyn rhag y gosb. Paid digio pan mae pobl ddrwg yn llwyddo; paid bod yn genfigennus ohonyn nhw – does dim dyfodol iddyn nhw. Mae’r person drwg fel lamp sy’n diffodd. Fy mab, dylet ti barchu’r ARGLWYDD a’r brenin, a pheidio cadw cwmni’r rhai sy’n gwrthryfela. Yn sydyn bydd dinistr yn dod arnyn nhw; pwy ŵyr faint o ddrwg allan nhw ei achosi?
Darllen Diarhebion 24
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Diarhebion 24:1-22
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos