Diarhebion 10:17-32
Diarhebion 10:17-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae derbyn disgyblaeth yn arwain i fywyd, ond gwrthod cerydd yn arwain ar ddisberod. Y mae gwefusau twyllodrus yn anwesu casineb, a ffôl yw'r un sy'n enllibio. Pan amlheir geiriau nid oes ball ar dramgwyddo, ond y mae'r deallus yn atal ei eiriau. Y mae tafod y cyfiawn fel arian dethol, ond diwerth yw calon yr un drwg. Y mae geiriau'r cyfiawn yn cynnal llawer, ond y mae ffyliaid yn marw o ddiffyg synnwyr. Bendith yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfoeth, ac nid yw'n ychwanegu gofid gyda hi. Gwneud anlladrwydd sy'n ddifyrrwch i'r ffôl, ond doethineb yw hyfrydwch y deallus. Yr hyn a ofna a ddaw ar y drygionus, ond caiff y cyfiawn ei ddymuniad. Ar ôl y storm, ni bydd sôn am y drygionus, ond y mae sylfaen y cyfiawn yn dragwyddol. Fel finegr i'r dannedd, neu fwg i'r llygaid, felly y mae'r diogyn i'w feistr. Y mae ofn yr ARGLWYDD yn estyn dyddiau, ond mae blynyddoedd y rhai drygionus yn cael eu byrhau. Y mae gobaith y cyfiawn yn troi'n llawenydd, ond derfydd gobaith y drygionus. Y mae ffordd yr ARGLWYDD yn noddfa i'r uniawn, ond yn ddinistr i'r rhai a wna ddrwg. Ni symudir y cyfiawn byth, ond nid erys y drygionus ar y ddaear. Y mae genau'r cyfiawn yn llefaru doethineb, ond torrir ymaith y tafod twyllodrus. Gŵyr gwefusau'r cyfiawn beth sy'n gymeradwy, ond twyllodrus yw genau'r drygionus.
Diarhebion 10:17-32 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae derbyn cyngor yn arwain i fywyd, ond gwrthod gwrando ar gerydd yn arwain ar gyfeiliorn. Mae’r un sy’n cuddio casineb yn twyllo, a’r sawl sy’n enllibio pobl eraill yn ffŵl. Mae siarad gormod yn siŵr o dramgwyddo rhywun; mae’r person call yn brathu ei dafod. Mae geiriau person da fel arian gwerthfawr, ond dydy syniadau pobl ddrwg yn dda i ddim. Mae cyngor person da yn fwyd i gynnal pobl, ond mae ffyliaid yn marw o ddiffyg synnwyr cyffredin. Bendith yr ARGLWYDD sy’n cyfoethogi bywyd, dydy ymdrech ddynol yn ychwanegu dim ato. Mae ffŵl yn cael sbort wrth wneud drygau, ond doethineb sy’n rhoi mwynhad i bobl gall. Bydd yr hyn mae pobl ddrwg yn ei ofni yn digwydd iddyn nhw; ond bydd rhai sy’n byw’n iawn yn cael beth maen nhw eisiau. Fydd dim sôn am bobl ddrwg pan fydd y corwynt wedi mynd heibio, ond mae sylfeini’r rhai sy’n byw’n iawn yn aros yn gadarn. Mae anfon rhywun diog ar neges fel yfed finegr neu gael mwg yn eich llygaid. Mae parchu’r ARGLWYDD yn rhoi bywyd hir i chi, ond mae blynyddoedd y rhai drwg yn cael eu byrhau. Gall y cyfiawn edrych ymlaen at lawenydd, ond does gan bobl ddrwg ddim gobaith. Mae’r ARGLWYDD yn gaer i amddiffyn y rhai sy’n byw yn iawn, ond bydd pobl ddrwg yn cael eu dinistrio. Fydd y cyfiawn byth yn cael ei symud, ond fydd y rhai drwg ddim yn cael byw yn y tir. Mae’r rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn yn siarad yn gall, ond bydd y rhai sy’n twyllo yn cael eu tewi. Mae’r cyfiawn yn gwybod beth sy’n iawn i’w ddweud; ond mae pobl ddrwg yn twyllo.
Diarhebion 10:17-32 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ar y ffordd i fywyd y mae y neb a gadwo addysg: ond y neb a wrthodo gerydd, sydd yn cyfeiliorni. A guddio gas â gwefusau celwyddog, a’r neb a ddywed enllib, sydd ffôl. Yn amlder geiriau ni bydd pall ar bechod: ond y neb a atalio ei wefusau sydd synhwyrol. Tafod y cyfiawn sydd fel arian detholedig: calon y drygionus ni thâl ond ychydig. Gwefusau y cyfiawn a borthant lawer: ond y ffyliaid, o ddiffyg synnwyr, a fyddant feirw. Bendith yr ARGLWYDD a gyfoethoga; ac ni ddwg flinder gyda hi. Hyfryd gan ffôl wneuthur drwg: a chan ŵr synhwyrol y mae doethineb. Y peth a ofno y drygionus, a ddaw iddo: ond y peth a ddeisyfo y rhai cyfiawn, DUW a’i rhydd. Fel y mae y corwynt yn myned heibio, felly ni bydd y drygionus mwy: ond y cyfiawn sydd sylfaen a bery byth. Megis finegr i’r dannedd, a mwg i’r llygaid, felly y bydd y diog i’r neb a’i gyrrant. Ofn yr ARGLWYDD a estyn ddyddiau: ond blynyddoedd y drygionus a fyrheir. Gobaith y cyfiawn fydd llawenydd: ond gobaith y drygionus a dderfydd amdano. Ffordd yr ARGLWYDD sydd gadernid i’r perffaith: ond dinistr fydd i’r rhai a wnânt anwiredd. Y cyfiawn nid ysgog byth: ond y drygionus ni phreswyliant y ddaear. Genau y cyfiawn a ddwg allan ddoethineb: a’r tafod cyndyn a dorrir ymaith. Gwefusau y cyfiawn a wyddant beth sydd gymeradwy; ond genau y drygionus a lefara drawsedd.