Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 10

10
Diarhebion Solomon
1Dyma ddiarhebion Solomon:
Y mae mab doeth yn gwneud ei dad yn llawen,
ond mab ffôl yn dwyn gofid i'w fam.
2Nid oes elw o drysorau a gaed mewn drygioni,
ond y mae cyfiawnder yn amddiffyn rhag marwolaeth.
3Nid yw'r ARGLWYDD yn gadael i'r cyfiawn newynu,
ond y mae'n siomi chwant y rhai drwg.
4Y mae llaw segur yn dwyn tlodi,
ond llaw ddiwyd yn peri cyfoeth.
5Y mae mab sy'n cywain yn yr haf yn ddeallus,
ond un sy'n cysgu trwy'r cynhaeaf yn dod â chywilydd.
6Bendithion sy'n disgyn ar y cyfiawn,
ond y mae genau'r drwg yn cuddio trais.
7Y mae cofio'r cyfiawn yn dwyn bendith,
ond y mae enw'r drwg yn diflannu.
8Y mae'r doeth yn derbyn gorchymyn,
ond y ffôl ei siarad yn cael ei ddifetha.
9Y mae'r un sy'n byw'n uniawn yn cerdded yn ddiogel,
ond darostyngir yr un sy'n gwyrdroi ei ffyrdd.
10Y mae wincio â'r llygad yn achosi helbul,
ond cerydd agored yn peri heddwch.#10:10 Felly Groeg. Hebraeg, ond y mae'r ffôl ei siarad yn cael ei ddifetha. Cymh. adn. 8b.
11Ffynnon bywyd yw geiriau'r cyfiawn,
ond y mae genau'r drwg yn cuddio trais.
12Y mae casineb yn achosi cynnen,
ond y mae cariad yn cuddio pob trosedd.
13Ar wefusau'r deallus ceir doethineb,
ond rhoddir gwialen ar gefn y disynnwyr.
14Y mae'r doeth yn trysori deall,
ond dwyn dinistr yn agos a wna siarad ffôl.
15Golud y cyfoethog yw ei ddinas gadarn,
ond dinistr y tlawd yw ei dlodi.
16Cyflog y cyfiawn yw bywyd,
ond cynnyrch y drwg yw pechod.
17Y mae derbyn disgyblaeth yn arwain i fywyd,
ond gwrthod cerydd yn arwain ar ddisberod.
18Y mae gwefusau twyllodrus yn anwesu casineb,
a ffôl yw'r un sy'n enllibio.
19Pan amlheir geiriau nid oes ball ar dramgwyddo,
ond y mae'r deallus yn atal ei eiriau.
20Y mae tafod y cyfiawn fel arian dethol,
ond diwerth yw calon yr un drwg.
21Y mae geiriau'r cyfiawn yn cynnal llawer,
ond y mae ffyliaid yn marw o ddiffyg synnwyr.
22Bendith yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfoeth,
ac nid yw'n ychwanegu gofid gyda hi.
23Gwneud anlladrwydd sy'n ddifyrrwch i'r ffôl,
ond doethineb yw hyfrydwch y deallus.
24Yr hyn a ofna a ddaw ar y drygionus,
ond caiff y cyfiawn ei ddymuniad.
25Ar ôl y storm, ni bydd sôn am y drygionus,
ond y mae sylfaen y cyfiawn yn dragwyddol.
26Fel finegr i'r dannedd, neu fwg i'r llygaid,
felly y mae'r diogyn i'w feistr.
27Y mae ofn yr ARGLWYDD yn estyn dyddiau,
ond mae blynyddoedd y rhai drygionus yn cael eu byrhau.
28Y mae gobaith y cyfiawn yn troi'n llawenydd,
ond derfydd gobaith y drygionus.
29Y mae ffordd yr ARGLWYDD yn noddfa i'r uniawn,
ond yn ddinistr i'r rhai a wna ddrwg.
30Ni symudir y cyfiawn byth,
ond nid erys y drygionus ar y ddaear.
31Y mae genau'r cyfiawn yn llefaru doethineb,
ond torrir ymaith y tafod twyllodrus.
32Gŵyr gwefusau'r cyfiawn beth sy'n gymeradwy,
ond twyllodrus yw genau'r drygionus.

Dewis Presennol:

Diarhebion 10: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd