Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 11

11
1Y mae cloriannau twyllodrus yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD,
ond pwysau cywir wrth ei fodd.
2Yn dilyn balchder fe ddaw amarch,
ond gyda'r rhai gwylaidd y mae doethineb.
3Y mae eu gonestrwydd yn arwain yr uniawn,
ond eu gwyrni eu hunain yn difa'r twyllwyr.
4Nid oes gwerth mewn cyfoeth yn nydd dicter,
ond y mae cyfiawnder yn amddiffyn rhag angau.
5Y mae cyfiawnder y cywir yn ei gadw ar y ffordd union,
ond cwympa'r drygionus trwy ei ddrygioni.
6Y mae eu cyfiawnder yn gwaredu'r uniawn,
ond eu trachwant yn fagl i'r twyllwyr.
7Pan fydd farw'r drygionus, derfydd gobaith,
a daw terfyn ar hyder mewn cyfoeth.
8Gwaredir y cyfiawn rhag adfyd,
ond fe â'r drygionus dros ei ben iddo.
9Y mae'r annuwiol yn dinistrio'i gymydog â'i eiriau,
ond gwaredir y cyfiawn trwy ddeall.
10Ymhyfryda dinas yn llwyddiant y cyfiawn,
a cheir gorfoledd pan ddinistrir y drygionus.
11Dyrchefir dinas gan fendith yr uniawn,
ond dinistrir hi trwy eiriau'r drygionus.
12Y mae'r disynnwyr yn dilorni ei gymydog,
ond cadw'n dawel a wna'r deallus.
13Y mae'r straegar yn bradychu cyfrinach,
ond y mae'r teyrngar yn ei chadw.
14Heb ei chyfarwyddo, methu a wna cenedl,
ond y mae diogelwch mewn llawer o gynghorwyr.
15Daw helbul o fynd yn feichiau dros ddieithryn,
ond y mae'r un sy'n casáu mechnïaeth yn ddiogel.
16Y mae gwraig raslon yn cael clod,
ond pobl ddidostur sy'n ennill cyfoeth.
17Dwyn elw iddo'i hun y mae'r trugarog,
ond ei niweidio'i hun y mae'r creulon.
18Gwneud elw twyllodrus y mae'r drygionus,
ond caiff yr un sy'n hau cyfiawnder gyflog teg.
19I'r un sy'n glynu wrth gyfiawnder daw bywyd,
ond i'r sawl sy'n dilyn drygioni marwolaeth.
20Y mae'r rhai gwrthnysig yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD,
ond y mae'r rhai cywir wrth ei fodd.
21Y mae'n sicr na chaiff un drwg osgoi cosb,
ond caiff plant y cyfiawn fynd yn rhydd.
22Fel modrwy aur yn nhrwyn hwch,
felly y mae gwraig brydferth heb synnwyr.
23Dymuno'r hyn sydd dda a wna'r cyfiawn,
ond diflanna gobaith y drygionus.
24Y mae un yn hael, ac eto'n ennill cyfoeth,
ond arall yn grintach, a phob amser mewn angen.
25Llwydda'r un a wasgar fendithion,
a diwellir yr un a ddiwalla eraill.
26Y mae pobl yn melltithio'r un sy'n cronni ŷd,
ond yn bendithio'r sawl sy'n ei werthu.
27Y mae'r un sy'n ceisio daioni yn ennill ffafr,
ond syrth drygioni ar y sawl sy'n ei ddilyn.
28Cwympa'r un sy'n ymddiried yn ei gyfoeth,
ond ffynna'r cyfiawn fel deilen werdd.
29Y mae'r un sy'n peri helbul i'w deulu'n etifeddu'r gwynt,
a bydd y ffôl yn was i'r doeth.
30Ffrwyth cyfiawnder yw pren y bywyd,
ond y mae trais#11:30 Cymh. Groeg. Hebraeg, y mae'r doeth. yn difa bywydau.
31Os caiff y cyfiawn ei dalu ar y ddaear,
pa faint mwy y drygionus a'r pechadur?

Dewis Presennol:

Diarhebion 11: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda