Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 10

10
1Diarhebion Solomon. Mab doeth a wna dad llawen, a mab ffôl a dristâ ei fam. 2Ni thycia trysorau drygioni: ond cyfiawnder a wared rhag angau. 3Ni edy yr Arglwydd i enaid y cyfiawn newynu: ond efe a chwâl ymaith gyfoeth y drygionus. 4Y neb a weithio â llaw dwyllodrus, fydd dlawd: ond llaw y diwyd a gyfoethoga. 5Mab synhwyrol yw yr hwn a gasgl amser haf: ond mab gwaradwyddus yw yr hwn a gwsg amser cynhaeaf. 6Bendithion fydd ar ben y cyfiawn: ond trawsedd a gae ar enau y drygionus. 7Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig: ond enw y drygionus a bydra. 8Y galon ddoeth a dderbyn orchmynion: ond y ffôl ei wefusau a gwymp. 9Y neb a rodio yn uniawn, a rodia yn ddiogel: ond y neb a gam-dry ei ffyrdd, a fydd hynod. 10Y neb a amneidio â’i lygaid, a bair flinder: a’r ffôl ei wefusau a gwymp. 11Ffynnon bywyd yw genau y cyfiawn: ond trawsedd a gae ar enau y drygionus. 12Casineb a gyfyd gynhennau: ond cariad a guddia bob camwedd. 13Yng ngwefusau y synhwyrol y ceir doethineb: ond gwialen a weddai i gefn yr angall. 14Y doethion a ystoriant wybodaeth: ond dinistr sydd gyfagos i enau y ffôl. 15Cyfoeth y cyfoethog yw dinas ei gadernid ef: ond dinistr y tlodion yw eu tlodi. 16Gwaith y cyfiawn a dynn at fywyd: ond ffrwyth y drygionus tuag at bechod. 17Ar y ffordd i fywyd y mae y neb a gadwo addysg: ond y neb a wrthodo gerydd, sydd yn cyfeiliorni. 18A guddio gas â gwefusau celwyddog, a’r neb a ddywed enllib, sydd ffôl. 19Yn amlder geiriau ni bydd pall ar bechod: ond y neb a atalio ei wefusau sydd synhwyrol. 20Tafod y cyfiawn sydd fel arian detholedig: calon y drygionus ni thâl ond ychydig. 21Gwefusau y cyfiawn a borthant lawer: ond y ffyliaid, o ddiffyg synnwyr, a fyddant feirw. 22Bendith yr Arglwydd a gyfoethoga; ac ni ddwg flinder gyda hi. 23Hyfryd gan ffôl wneuthur drwg: a chan ŵr synhwyrol y mae doethineb. 24Y peth a ofno y drygionus, a ddaw iddo: ond y peth a ddeisyfo y rhai cyfiawn, Duw a’i rhydd. 25Fel y mae y corwynt yn myned heibio, felly ni bydd y drygionus mwy: ond y cyfiawn sydd sylfaen a bery byth. 26Megis finegr i’r dannedd, a mwg i’r llygaid, felly y bydd y diog i’r neb a’i gyrrant. 27Ofn yr Arglwydd a estyn ddyddiau: ond blynyddoedd y drygionus a fyrheir. 28Gobaith y cyfiawn fydd llawenydd: ond gobaith y drygionus a dderfydd amdano. 29Ffordd yr Arglwydd sydd gadernid i’r perffaith: ond dinistr fydd i’r rhai a wnânt anwiredd. 30Y cyfiawn nid ysgog byth: ond y drygionus ni phreswyliant y ddaear. 31Genau y cyfiawn a ddwg allan ddoethineb: a’r tafod cyndyn a dorrir ymaith. 32Gwefusau y cyfiawn a wyddant beth sydd gymeradwy; ond genau y drygionus a lefara drawsedd.

Dewis Presennol:

Diarhebion 10: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda