Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 23:16-29

Jeremeia 23:16-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Peidiwch gwrando ar beth mae’r proffwydi yna’n ei ddweud – maen nhw’n eich twyllo gyda’u gobaith gwag. Maen nhw’n rhannu eu ffantasïau yn lle beth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud. Maen nhw’n dal ati i ddweud wrth y rhai sy’n ddirmygus ohono i, ‘Mae’r ARGLWYDD yn dweud y bydd popeth yn iawn!’ Maen nhw’n dweud wrth y rhai sy’n ystyfnig, ‘Fydd dim byd drwg yn digwydd i chi.’ Ond prun ohonyn nhw sy’n gwybod cynlluniau’r ARGLWYDD, ac wedi clywed a deall beth mae e’n ddweud? Prun ohonyn nhw sydd wedi gwrando arno?” Gwyliwch chi! Bydd yr ARGLWYDD yn ddig. Bydd yn dod fel storm. Bydd fel corwynt dinistriol yn disgyn ar y rhai drwg. Fydd llid yr ARGLWYDD ddim yn tawelu nes bydd wedi gwneud popeth mae’n bwriadu ei wneud. Byddwch chi’n dod i ddeall y peth yn iawn ryw ddydd. ARGLWYDD “Wnes i ddim anfon y proffwydi yma, ond roedden nhw’n rhedeg i gyhoeddi eu neges. Wnes i ddim rhoi neges iddyn nhw, ond roedden nhw’n dal i broffwydo. Petaen nhw wedi sefyll o’m blaen a gwrando, bydden nhw wedi cyhoeddi fy neges i’m pobl. Bydden nhw wedi gwneud iddyn nhw droi cefn ar ddrwg.” “Ai rhyw dduw bach lleol ydw i?” meddai’r ARGLWYDD. “Onid fi ydy’r Duw sy’n gweld popeth o bell?” “Pwy sy’n gallu cuddio oddi wrtho i?” meddai’r ARGLWYDD. “Dw i ym mhobman drwy’r nefoedd a’r ddaear!” “Dw i wedi clywed beth mae’r proffwydi’n ei ddweud. Maen nhw’n honni siarad drosto i, ond yn dweud celwydd! ‘Dw i wedi cael breuddwyd! Dw i wedi cael breuddwyd!’ medden nhw. Am faint mae’n rhaid i hyn fynd ymlaen? Am faint maen nhw’n mynd i ddal ati i ddweud celwydd? Maen nhw’n twyllo’u hunain! Ydyn nhw’n mynd i newid rywbryd? Am faint maen nhw’n mynd i rannu eu breuddwydion gyda’i gilydd, a cheisio cael fy mhobl i anghofio pwy ydw i? Dyna beth wnaeth eu hynafiaid – anghofio amdana i ac addoli’r duw Baal. Gadewch i’r proffwyd gafodd freuddwyd ei rhannu fel breuddwyd. Ond dylai’r un dw i wedi rhoi neges iddo gyhoeddi’r neges yna’n ffyddlon.” “Allwch chi ddim cymharu’r gwellt gyda’r grawn!” meddai’r ARGLWYDD. “Mae fy neges i fel tân yn llosgi,” meddai’r ARGLWYDD. “Mae fel gordd yn dryllio carreg.”

Jeremeia 23:16-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Peidiwch â gwrando ar eiriau'r proffwydi sy'n proffwydo i chwi, gan addo i chwi bethau ffals; y maent yn llefaru gweledigaeth o'u dychymyg eu hunain, ac nid o enau yr ARGLWYDD. Parhânt i ddweud wrth y rhai sy'n dirmygu gair yr ARGLWYDD, ‘Heddwch fo i chwi’; ac wrth bob un sy'n rhodio yn ôl ystyfnigrwydd ei galon dywedant, ‘Ni ddaw arnoch niwed.’ “Pwy a safodd yng nghyngor yr ARGLWYDD, a gweld a chlywed ei air? Pwy a ddaliodd ar ei air, a'i wrando? Wele gorwynt yr ARGLWYDD yn mynd allan yn ffyrnig, gan chwyrlïo fel tymestl, a throelli uwchben yr annuwiol. Ni phaid digofaint yr ARGLWYDD nes iddo gwblhau ei fwriadau a'u cyflawni. Yn y dyddiau diwethaf y deallwch hyn yn eglur. Nid anfonais y proffwydi, ond eto fe redant; ni leferais wrthynt, ond eto fe broffwydant. Pe baent wedi sefyll yn fy nghyngor, byddent wedi peri i'm pobl wrando ar fy ngeiriau, a'u troi o'u ffyrdd drygionus ac o'u gweithredoedd drwg. “Onid Duw agos wyf fi,” medd yr ARGLWYDD, “ac nid Duw pell? A all unrhyw un lechu yn y dirgel fel na welaf mohono?” medd yr ARGLWYDD. “Onid wyf yn llenwi'r nefoedd a'r ddaear?” medd yr ARGLWYDD. “Clywais yr hyn a ddywedodd y proffwydi sy'n proffwydo celwydd yn fy enw gan ddweud, ‘Breuddwydiais, breuddwydiais!’ Pa hyd yr erys ym mwriad y proffwydi broffwydo celwydd—proffwydi hudoliaeth eu calon eu hunain? Bwriadant beri i'm pobl anghofio fy enw trwy adrodd eu breuddwydion y naill wrth y llall, fel y bu i'w hynafiaid anghofio fy enw o achos Baal. Y proffwyd sydd â breuddwyd ganddo, myneged ei freuddwyd, a'r hwn sydd â'm gair i ganddo, llefared fy ngair yn ffyddlon. Beth sy'n gyffredin rhwng gwellt a gwenith?” medd yr ARGLWYDD. “Onid yw fy ngair fel tân,” medd yr ARGLWYDD, “ac fel gordd sy'n dryllio'r graig?

Jeremeia 23:16-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Na wrandewch ar eiriau y proffwydi sydd yn proffwydo i chwi: y maent yn eich gwneuthur yn ofer: gweledigaeth eu calon eu hunain a lefarant, ac nid o enau yr ARGLWYDD. Gan ddywedyd y dywedant wrth fy nirmygwyr, Yr ARGLWYDD a ddywedodd, Bydd i chwi heddwch; ac wrth bob un sydd yn rhodio wrth amcan ei galon ei hun y dywedant, Ni ddaw arnoch niwed. Canys pwy a safodd yng nghyfrinach yr ARGLWYDD, ac a welodd ac a glywodd ei air ef? pwy hefyd a ddaliodd ar ei air ef, ac a’i gwrandawodd? Wele, corwynt yr ARGLWYDD a aeth allan mewn llidiowgrwydd, sef corwynt angerddol a syrth ar ben y drygionus. Digofaint yr ARGLWYDD ni ddychwel, nes iddo wneuthur, a nes iddo gwblhau meddwl ei galon: yn y dyddiau diwethaf y deellwch hynny yn eglur. Ni hebryngais i y proffwydi hyn, eto hwy a redasant; ni leferais wrthynt, er hynny hwy a broffwydasant. A phe safasent yn fy nghyngor, a phe traethasent fy ngeiriau i’m pobl; yna y gwnaethent iddynt ddychwelyd o’u ffordd ddrwg, ac oddi wrth ddrygioni eu gweithredoedd. Ai DUW o agos ydwyf fi, medd yr ARGLWYDD, ac nid DUW o bell? A lecha un mewn dirgel leoedd, fel nas gwelwyf fi ef? medd yr ARGLWYDD: onid ydwyf fi yn llenwi y nefoedd a’r ddaear? medd yr ARGLWYDD. Mi a glywais beth a ddywedodd y proffwydi sydd yn proffwydo celwydd yn fy enw, gan ddywedyd, Breuddwydiais, breuddwydiais. Pa hyd y bydd hyn yng nghalon y proffwydi sydd yn proffwydo celwydd? ie, proffwydi hudoliaeth eu calon eu hunain ydynt. Y rhai sydd yn meddwl peri i’m pobl anghofio fy enw trwy eu breuddwydion a fynegant bob un i’w gymydog; fel yr anghofiodd eu tadau fy enw, er mwyn Baal. Y proffwyd sydd â breuddwyd ganddo, myneged freuddwyd; a’r hwn y mae ganddo fy ngair, llefared fy ngair mewn gwirionedd: beth yw yr us wrth y gwenith? medd yr ARGLWYDD. Onid yw fy ngair i megis tân? medd yr ARGLWYDD; ac fel gordd yn dryllio’r graig?