Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 23:16-29

Jeremeia 23:16-29 BNET

Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Peidiwch gwrando ar beth mae’r proffwydi yna’n ei ddweud – maen nhw’n eich twyllo gyda’u gobaith gwag. Maen nhw’n rhannu eu ffantasïau yn lle beth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud. Maen nhw’n dal ati i ddweud wrth y rhai sy’n ddirmygus ohono i, ‘Mae’r ARGLWYDD yn dweud y bydd popeth yn iawn!’ Maen nhw’n dweud wrth y rhai sy’n ystyfnig, ‘Fydd dim byd drwg yn digwydd i chi.’ Ond prun ohonyn nhw sy’n gwybod cynlluniau’r ARGLWYDD, ac wedi clywed a deall beth mae e’n ddweud? Prun ohonyn nhw sydd wedi gwrando arno?” Gwyliwch chi! Bydd yr ARGLWYDD yn ddig. Bydd yn dod fel storm. Bydd fel corwynt dinistriol yn disgyn ar y rhai drwg. Fydd llid yr ARGLWYDD ddim yn tawelu nes bydd wedi gwneud popeth mae’n bwriadu ei wneud. Byddwch chi’n dod i ddeall y peth yn iawn ryw ddydd. ARGLWYDD “Wnes i ddim anfon y proffwydi yma, ond roedden nhw’n rhedeg i gyhoeddi eu neges. Wnes i ddim rhoi neges iddyn nhw, ond roedden nhw’n dal i broffwydo. Petaen nhw wedi sefyll o’m blaen a gwrando, bydden nhw wedi cyhoeddi fy neges i’m pobl. Bydden nhw wedi gwneud iddyn nhw droi cefn ar ddrwg.” “Ai rhyw dduw bach lleol ydw i?” meddai’r ARGLWYDD. “Onid fi ydy’r Duw sy’n gweld popeth o bell?” “Pwy sy’n gallu cuddio oddi wrtho i?” meddai’r ARGLWYDD. “Dw i ym mhobman drwy’r nefoedd a’r ddaear!” “Dw i wedi clywed beth mae’r proffwydi’n ei ddweud. Maen nhw’n honni siarad drosto i, ond yn dweud celwydd! ‘Dw i wedi cael breuddwyd! Dw i wedi cael breuddwyd!’ medden nhw. Am faint mae’n rhaid i hyn fynd ymlaen? Am faint maen nhw’n mynd i ddal ati i ddweud celwydd? Maen nhw’n twyllo’u hunain! Ydyn nhw’n mynd i newid rywbryd? Am faint maen nhw’n mynd i rannu eu breuddwydion gyda’i gilydd, a cheisio cael fy mhobl i anghofio pwy ydw i? Dyna beth wnaeth eu hynafiaid – anghofio amdana i ac addoli’r duw Baal. Gadewch i’r proffwyd gafodd freuddwyd ei rhannu fel breuddwyd. Ond dylai’r un dw i wedi rhoi neges iddo gyhoeddi’r neges yna’n ffyddlon.” “Allwch chi ddim cymharu’r gwellt gyda’r grawn!” meddai’r ARGLWYDD. “Mae fy neges i fel tân yn llosgi,” meddai’r ARGLWYDD. “Mae fel gordd yn dryllio carreg.”