Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 23

23
Gobaith i’r dyfodol
1“Mae ar ben ar arweinwyr y wlad!” meddai’r ARGLWYDD. “Yn lle gofalu am fy mhobl fel mae bugeiliaid yn gofalu am eu defaid, maen nhw’n gwneud niwed iddyn nhw a’u gyrru nhw ar chwâl.” 2Felly dyma mae’r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud am y ‘bugeiliaid’ yma sydd i fod i ofalu am fy mhobl: “Dych chi wedi chwalu’r praidd a gyrru’r defaid i ffwrdd yn lle gofalu amdanyn nhw. Felly bydda i’n eich cosbi chi am y drwg dych chi wedi’i wneud,” meddai’r ARGLWYDD. 3“Ond dw i’n mynd i gasglu’r defaid sydd ar ôl at ei gilydd. Bydda i’n eu casglu nhw o’r gwledydd lle gwnes i eu gyrru nhw,#Deuteronomium 30:1-5 a’u harwain nhw yn ôl i’w corlan. Byddan nhw’n cael rhai bach a bydd mwy a mwy ohonyn nhw. 4Bydda i’n penodi arweinwyr fydd yn gofalu’n iawn amdanyn nhw. Fydd dim rhaid iddyn nhw fod ag ofn. Fydd dim byd i’w dychryn nhw, a fydd dim un ohonyn nhw yn mynd ar goll,” meddai’r ARGLWYDD.
5“Mae’r amser yn dod,” meddai’r ARGLWYDD,
“pan fydda i’n gwneud i flaguryn dyfu ar goeden deuluol Dafydd,
un fydd yn gwneud beth sy’n iawn.
Bydd e’n frenin fydd yn teyrnasu’n ddoeth.
Bydd e’n gwneud beth sy’n gyfiawn ac yn deg yn y wlad.
6Bryd hynny bydd Jwda’n cael ei hachub
a bydd Israel yn saff.
Yr enw ar y brenin yma fydd,
‘Yr ARGLWYDD sy’n rhoi cyfiawnder i ni.’
7“Ac eto, mae amser gwell i ddod,” meddai’r ARGLWYDD. “Yn lle dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o’r Aifft …’ 8bydd pobl yn dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o dir y gogledd ac o’r gwledydd lle roedd wedi’u gyrru nhw.’ A bryd hynny byddan nhw’n cael byw yn eu gwlad eu hunain.”
Barn Duw ar y proffwydi ffals
9Neges am y proffwydi:
Jeremeia:
Dw i wedi cynhyrfu’n lân,
a dw i’n crynu drwyddo i.
Dw i fel dyn wedi meddwi,
fel rhywun sy’n chwil gaib.
Alla i ddim diodde’r ffordd mae’r ARGLWYDD
a’i neges yn cael eu trin.
10Mae’r wlad yn llawn pobl sy’n anffyddlon iddo.
Mae’r tir wedi sychu am ei fod wedi’i felltithio.
Does dim porfa yn yr anialwch – mae wedi gwywo.
A’r cwbl am eu bod nhw’n byw bywydau drwg
ac yn camddefnyddio’u grym.
Yr ARGLWYDD:
11“Mae’r proffwydi a’r offeiriaid yn bobl annuwiol.
Dw i wedi gweld y pethau ofnadwy maen nhw’n eu gwneud
hyd yn oed yn y deml ei hun!”
–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
12“Felly bydd eu llwybrau yn dywyll a llithrig.
Byddan nhw’n baglu ac yn syrthio.
Dw i’n mynd i ddod â dinistr arnyn nhw.
Mae’r amser iddyn nhw gael eu cosbi wedi dod.”
–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
13“Gwelais broffwydi Samaria gynt#23:13 Samaria gynt Roedd Samaria, prifddinas teyrnas Israel yn y gogledd, wedi’i choncro gan fyddin Asyria bron 150 o flynyddoedd cyn hyn (yn 722 cc).
yn gwneud peth cwbl anweddus:
Roedden nhw’n proffwydo ar ran y duw Baal,
ac yn camarwain fy mhobl, Israel.
14A nawr dw i’n gweld proffwydi Jerwsalem
yn gwneud rhywbeth yr un mor erchyll.
Maen nhw’n anffyddlon i mi ac yn dilyn celwydd!
Maen nhw’n annog y rhai sy’n gwneud drwg
yn lle ceisio’u cael nhw i stopio.
Maen nhw mor ddrwg â Sodom yn fy ngolwg i.
Mae pobl Jerwsalem fel pobl Gomorra.”#23:14 Sodom … Gomorra Dwy dref gafodd eu dinistrio gan yr ARGLWYDD am fod y bobl yno mor ddrwg (gw. Genesis 18:16–19:29).
15Felly, dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud am y proffwydi:
“Bydda i’n gwneud i’r bobl yma ddioddef yn chwerw,
ac yfed dŵr gwenwynig barn.
Mae proffwydi Jerwsalem yn gyfrifol
am ledaenu annuwioldeb drwy’r wlad i gyd.”
16Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud:
“Peidiwch gwrando ar beth mae’r proffwydi yna’n ei ddweud –
maen nhw’n eich twyllo gyda’u gobaith gwag.
Maen nhw’n rhannu eu ffantasïau
yn lle beth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud.
17Maen nhw’n dal ati i ddweud
wrth y rhai sy’n ddirmygus ohono i,
‘Mae’r ARGLWYDD yn dweud y bydd popeth yn iawn!’
Maen nhw’n dweud wrth y rhai sy’n ystyfnig,
‘Fydd dim byd drwg yn digwydd i chi.’
18Ond prun ohonyn nhw sy’n gwybod cynlluniau’r ARGLWYDD,
ac wedi clywed a deall beth mae e’n ddweud?
Prun ohonyn nhw sydd wedi gwrando arno?”
Jeremeia:
19Gwyliwch chi! Bydd yr ARGLWYDD yn ddig.
Bydd yn dod fel storm.
Bydd fel corwynt dinistriol yn disgyn ar y rhai drwg.
20Fydd llid yr ARGLWYDD ddim yn tawelu
nes bydd wedi gwneud popeth mae’n bwriadu ei wneud.
Byddwch chi’n dod i ddeall y peth yn iawn ryw ddydd.
Yr ARGLWYDD:
21“Wnes i ddim anfon y proffwydi yma,
ond roedden nhw’n rhedeg i gyhoeddi eu neges.
Wnes i ddim rhoi neges iddyn nhw,
ond roedden nhw’n dal i broffwydo.
22Petaen nhw wedi sefyll o’m blaen a gwrando,
bydden nhw wedi cyhoeddi fy neges i’m pobl.
Bydden nhw wedi gwneud iddyn nhw droi cefn ar ddrwg.”
23“Ai rhyw dduw bach lleol ydw i?” meddai’r ARGLWYDD.
“Onid fi ydy’r Duw sy’n gweld popeth o bell?”
24“Pwy sy’n gallu cuddio oddi wrtho i?” meddai’r ARGLWYDD.
“Dw i ym mhobman drwy’r nefoedd a’r ddaear!”
25“Dw i wedi clywed beth mae’r proffwydi’n ei ddweud. Maen nhw’n honni siarad drosto i, ond yn dweud celwydd! ‘Dw i wedi cael breuddwyd! Dw i wedi cael breuddwyd!’ medden nhw. 26Am faint mae’n rhaid i hyn fynd ymlaen? Am faint maen nhw’n mynd i ddal ati i ddweud celwydd? Maen nhw’n twyllo’u hunain! Ydyn nhw’n mynd i newid rywbryd? 27Am faint maen nhw’n mynd i rannu eu breuddwydion gyda’i gilydd, a cheisio cael fy mhobl i anghofio pwy ydw i? Dyna beth wnaeth eu hynafiaid – anghofio amdana i ac addoli’r duw Baal.
28Gadewch i’r proffwyd gafodd freuddwyd
ei rhannu fel breuddwyd.
Ond dylai’r un dw i wedi rhoi neges iddo
gyhoeddi’r neges yna’n ffyddlon.”
“Allwch chi ddim cymharu’r gwellt gyda’r grawn!”
meddai’r ARGLWYDD.
29“Mae fy neges i fel tân yn llosgi,”
meddai’r ARGLWYDD.
“Mae fel gordd yn dryllio carreg.”
30“Felly, dw i eisiau i chi ddeall fy mod i yn erbyn y proffwydi hynny sy’n dwyn y neges oddi ar ei gilydd,” meddai’r ARGLWYDD. 31“Dw i yn erbyn y proffwydi hynny sy’n dweud beth maen nhw eisiau, ac yna’n honni, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud …’ 32Dw i eisiau i chi ddeall,” meddai’r ARGLWYDD, “fy mod i yn erbyn y proffwydi hynny sy’n cyhoeddi’r celwydd maen nhw wedi’i ddychmygu. Maen nhw’n camarwain fy mhobl gyda’u celwyddau a’u honiadau anghyfrifol. Wnes i mo’u hanfon nhw na dweud wrthyn nhw beth i’w wneud. Dŷn nhw ddim yn helpu’r bobl yma o gwbl,” meddai’r ARGLWYDD.
Baich trwm yr ARGLWYDD
33Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Jeremeia, pan mae’r bobl yma, neu broffwyd neu offeiriad, yn gofyn i ti, ‘Beth ydy’r baich mae’r ARGLWYDD yn ei roi arnon ni nawr?’ dywed wrthyn nhw, ‘Chi ydy’r baich, a dw i’n mynd i’ch taflu chi i ffwrdd,’ 34Ac os bydd proffwyd, offeiriad, neu unrhyw un arall yn dweud, ‘Mae’r ARGLWYDD yn rhoi baich trwm arnon ni,’ bydda i’n cosbi’r dyn hwnnw a’i deulu. 35Dyma ddylech chi fod yn ei ofyn i’ch gilydd: ‘Beth oedd ateb yr ARGLWYDD?’ neu ‘Beth ddwedodd yr ARGLWYDD?’ 36Rhaid i chi stopio dweud fod yr ARGLWYDD yn rhoi baich trwm arnoch chi. Y pethau dych chi’ch hunain yn eu dweud ydy’r ‘baich’. Dych chi wedi gwyrdroi neges ein Duw ni, yr ARGLWYDD hollbwerus, y Duw byw! 37Beth ddylech chi ei ofyn i’r proffwyd ydy, ‘Beth oedd ateb yr ARGLWYDD?’ neu ‘Beth ddwedodd yr ARGLWYDD?’ 38Os daliwch chi ati i ddweud, ‘Mae’r ARGLWYDD yn rhoi baich trwm arnon ni,’ dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dych chi’n dal i ddweud, “Mae’r ARGLWYDD yn rhoi baich trwm arnon ni,” er fy mod i wedi dweud yn glir wrthoch chi am beidio gwneud hynny. 39Felly, dw i’n mynd i’ch codi chi a’ch taflu chi i ffwrdd – chi a’r ddinas rois i i’ch hynafiaid chi. 40Bydda i’n eich gwneud chi’n jôc, a byddwch yn cael eich cywilyddio am byth.’”

Dewis Presennol:

Jeremeia 23: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda